Cynhaliwyd yr eisteddfodau dros ben-wythnos Gŵyl y Banc ym Mhafiliwn y Bont. Roedd yn braf cael cynnal y digwyddiad ar ôl colli eisteddfodau 2020 a 2021 oherwydd y pandemig, a chael dod nôl i ryw fath o normalrwydd. Er y toriad, daeth nifer dda o gystadleuwyr o’r safon flaenaf i gystadlu dros y tri diwrnod, ac roedd yn hyfryd gweld cymaint o ieuenctid yn perfformio. Roedd y beirniaid, Trystan Lewis, Linda’r Hafod, Paul Carey Jones a Llio Penri yn fawr iawn eu canmoliaeth o safon uchel y cystadlu dros y pen-wythnos.

Roedd yna enillydd ‘dwbwl’ i’r goron a’r gadair, sef Terwyn Tomos o Landudoch, sydd â chysylltiadau teuluol â Llanddewi Brefi. Mae Terwyn yn enillydd cyson yn y Bont.

Ar ddechrau seremoni’r cadeirio ar y dydd Sul, talwyd teyrnged i’r diweddar Selwyn Jones a fu’n ysgrifennydd yr eisteddfodau ers dros 45 mlynedd, gan ei gyfaill Lyn Ebenezer, a derbyniwyd cymeradwyaeth frwd y gynulleidfa. Derbyniwyd rhagor o deyrngedau ar ffurff barddoniaeth gan rai o feirdd y Talwrn hefyd.

Yr enillwyr oedd: Parti Canu oedran Cynradd: 1. Adran Aberystwyth. 2. Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd. 3. Ysgol Pontrhydfendigaid. 4. Ysgol Henry Richard, Tregaron. Parti Llefaru oedran Cynradd: 1. Ysgol Henry Richard. 2. Ysgol Pontrhydfendigaid. Côr Oedran Cynradd: 1. Adran Aberystwyth. 2. Ysgol Henry Richard. Ymgom oedran Cynradd: 1. Ysgol Henry Richard. 2. Ysgol Pontrhydfendigaid. 3. Ysgol Mynach, Pontarfynach. Unawd Offerynnol Blwyddyn 6 ac iau: 1. Anna Selyf Dafydd, 2. Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni. Ymgom oedran Uwchradd: 1. Parti FFITT, Aberaeron. 2. Ysgol Henry Richard. Unawd Offerynnol bl. 7, 8 a 9: 1. Carys Angharad, Llanybydder. 2. Gruffudd Sion, Llandre. 3. Alwena Mair Owen, Llanllwni. Parti Canu Agored: 12. Adran Aberystwyth. 2. Ysgol Henry Richard. Unawd Offerynnol bl. 10 a throsodd: 1. Lefi Dafydd, Eglwyswrw. 2. Catrin Edwards, Aberaeron (Piano). 3. Catrin Edwards (Clarinet). 4. Swyn Elfair Dafydd, Aberaeron. Enillydd Tlws Coffa Goronwy Evans am y chwaraewr pres gorau: Gruffudd Sion. Ensemble Offerynnol: 1. Jessica, Charlotte ac Emily Smith-Jones, Swyddffynnon. Unawd Blwyddyn 2 ac iau: 1. Nanw Melangell Griffiths Jones, Cwrtnewydd. 2. Gruffudd Iwan, Caernarfon. 2. Mari Dalton. 4. Arthur Sion Evans, Tregaron. Llefaru bl. 2 ac iau: 1. Arthur Sion Evans. 2. Nanw Melangell Griffiths Jones. 3. Gruffudd Iwan, Caernarfon. Unawd bl. 3 a 4: 1. Iwan Marc Thomas, Pontarddulais. 2. Gruffudd Davies, Llandyfyriog. 3. Celyn Davies, Llandyfyriog. Llefaru bl. 3 a 4: 1. Gruffudd Davies. 2. Celyn Davies. 3. (Cydradd) Elliw Grug Davies, Drefach ac Iwan Marc Thomas. Unawd bl. 5 a 6: 1. Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni. 2. Anest Gwilym, Pontsenni. 3. Charlotte Smith Jones, Swyddffynnon. Llefaru Bl. 5 a 6: 1. Gwennan Lloyd Owen. 2. Sian Elen, Llanymddyfri. 3. Anest Gwilym, Pontsenni. Unawd Alaw Werin: 1. Gwennan Lloyd Owen. 2. Ella Gwen, Bronant. 3. Anest Gwilym. Unawd Cerdd Dant Bl 6 ac iau: 1. Gwennan Lloyd Owen. 2. Ella Gwen. 3. (cydradd) Gruffudd Iwan a Nanw Melangell Griffiths Jones. Unawd Bl. 7, 8 a 9: 1. Ela Mablen Griffiths Jones, Cwrtnewydd. 2. Fflur McConell, Aberaeron. 3. Swyn Efa Thomas, Pencader. 4. Keira Hannah, Plasmawr. Llefaru bl. 7, 8 a 9: 1. Alwena Mair Owen. 2. Ela Mablen Griffiths Jones. 3. (cydradd) Keira Hanna as Betrys Lloyd Dafydd, Abermeurig. Unawd Cerdd Dant bl. 7-13: 1. Ela Mablen Griffiths Jones. 2. Alwena Mair Owen. 3. Fflur Mc Conell. Unawd bl. 10-13: 1. Lois Wyn, Rhydymain. 2. Phoebe Joy, Dinas. 3. (cydradd) Zara Evans, Tregaron a Catrin Edwards, Aberaeron. Llefaru bl. 10-13: 1. (cydradd) Zara Evans, ac Elin Llwyd, Y Bala. Unawd Alaw Werin bl. 7-13: 1. Ioan Mabbutt, Aberystwyth. 2. Phoebe Joy. 3 (cydradd) Ela Mablen Griffiths Jones ac Alwena Mair Owen. Unawd Cerdd Dant Agored: 1. Trefor Pugh, Trefenter. 2. Efan Williams, Lledrod. 3. Efa Angharad, Gorslas. Unawd Alaw Werin Agored: 1. Dafydd Jones, Ciliau Aeron. 2. Efa Angharad. 3. (cydradd) Efan Williams a Trefor Pugh. Unawd allan o Sioe Gerdd, Opera Ysgafn neu Ffilm dan 19 oed: 1. Heledd Davies, Talybont. 2. Lois Wyn. 3. (cydradd) Phoebe Joy ac Ela Mablen. Llefaru dan 25 oed: 1. Elin Williams, Tregaron. Unawd dan 25 oed: 1. Owain Rowlands, Llandeilo. 2. Guto Lewis, Llanon. 3. Efa Angharad. 4. Lois Wyn. Unawd allan o Sioe Gerdd, Opera Ysgafn neu Ffilm, Agored: 1. Lois Wyn. 2. Owain Rowlands. 3. Sara Davies, Prengwyn. 4. Dewi Sion Evans, Tregaron. Cyflwyniad Dramatig Unigol: 1. Swyn Efa Thomas. Tlws y diweddar Moc Morgan am berfformiad gorau’r noson: Lois Wyn. Deuawd Agored: 1. Efan Williams, Lledrod a Barry Powell, Llanfihangel-y-Creuddyn. 2. Gwenllian a Siwan, Caerfyrddin. Cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymu (Darn Digri): 1. Rhys Jones, Corwen. 2. Gaenor Mai Jones, Pontypridd. Unawd Gymraeg: 1. Efan Williams. 2. Emyr Lloyd Jones, Bontnewydd. 3. Robin Gruffudd Hughes, Bethel. 4. Sara Davies, Hen Golwyn. Canu Emyn dros 60 oed: 1. Vernon Maher, Castell Newydd Emlyn. 2. Marianne Jones Powell, Llandre. 3. Gwynne Jones, Llanafan. Llefaru Unigol o’r Ysgrythur: 1. Gaenor Mai Jones. Unawd Oratorio: 1. Emyr Lloyd Jones. 2. Barry Powell. 3. Efan Williams. 4. Marianne Jones Powell. Prif gystadleuaeth Lefaru Unigol: 1. Rhys Jones. 2. Gaenor Mai Jones. Her Unawd dros 25 oed: 1. Emyr Lloyd Jones. 2. Robin Gruffudd Hughes. 3. Efan Williams. 4. Barry Powell. 5. Marianne Jones Powell. Bardd y Goron a’r Gadair: Terwyn Tomos, Llandudoch. Tlws yr Ifanc: 1. Gwenno Lois Robinson, Bro Gŵyr. 2. Erin Trysor, Llangeitho. 3. Elin Williams, Tregaron. Emyn: 1. John Gruffudd Jones, Abergele. 2. John Emyr, Radyr. 3. Mary Morgan, Llanrhystud. Soned neu Delyneg: 1. Beti Wyn James, Abergwili. 2. Alan Lui, Didcot. 3. Terwyn Tomos. Englyn Digri: 1. John Ffrancon Gruffudd, Abergele. 2. Vernon Jones, Bow Street. 3. Mererid Jenkins, Ffair Rhos. Cywydd: Emyr Jones, Caerdydd. 2. Vernon Jones. 3. Terwyn Tomos. Stori Fer: 1. Dafydd Guto Ifan, Llanrug. 2. Gaenor Mai Jones, Pontypridd. 3. Aled Evans, Trisant.