Mae hi’n bwysig cofio a dathlu arwyr o Gymru. Maen nhw’n bobl sydd wedi newid hanes, newid Cymru, ac efallai newid y byd.

Ar ôl ysgrifennu’r llyfr cyntaf 20 o Arwyr Cymru, roedd yr awdur Richard Williams, o Langefni, yn teimlo bod llawer iawn mwy o arwyr diddorol, felly dyma restru ugain arall yn Mwy o Arwyr Cymru.

Dyma’r ugain arwr sy’n ymddangos yn y llyfr newydd:

Cyfianwder a chydraddoldeb

1 Arglwyddes Rhondda

2 Gwynfor Evans

3 Hywel Dda

Gwyddoniaeth

4 Edward Llwyd

5 Mary Wynne Warner

Cerddoriaeth

6 Geraint Evans

7 Jane Ann Richards

8 Meredydd Evans

Celfyddydau

9 Clough Williams-Ellis

10 Gwen Jones

11 Kyffin Williams

Menter a Busnes

12 Charles Rolls

13 Laura Ashley

14 Robert Owen

Addysg

15 Betty Campbell

16 Griffith Jones

17 Norah Isaac

Yr Iaith Gymraeg

18 Yr Arglwyddes Augusta Waddington Hall

19 Ifan ab Owen Edwards

20 Owain Glynd?r

Mae Richard wedi ymddeol o’i waith fel pennaeth ysgol.

Mae o wrth ei fodd yn ysgrifennu llyfrau am hanes Ynys Môn. Mae hefyd yn mwynhau ysgrifennu barddoniaeth ac mae o’n rhan o Orsedd Beirdd Môn.

• Mwy o Arwyr Cymru, Gwasg Carreg Gwalch, £6.95.