Y llyfr pwysicaf erioed i ymddangos yn y Gymraeg a Chymraes enwocaf y byd yw dau ganolbwynt arddangosfa sydd i’w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng dechrau mis Hydref a dechrau mis Ebrill.

Mae arddangosfa Beibl i Bawb yn olrhain hanes cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg ac yna’r ymdrechion ar hyd y canrifoedd, gan bobl fel Griffith Jones (Llanddowror), Peter Williams a Thomas Charles o’r Bala, i gynhyrchu a lledaenu copïau ohono ac i ddysgu pobl i’w ddarllen.

Cyhoeddwyd y cyfieithiad cyflawn cyntaf o’r Beibl i’r Gymraeg yn 1588. Dyma’r cyfieithiad a alwn yn aml yn ‘Feibl William Morgan’, ac mae ei ddylanwad ar Gymru, ei hiaith a’i diwylliant wedi bod yn aruthrol.

Aeth cyfieithwyr Y Beibl Cymraeg Newydd (1988) mor bell â galw Beibl 1588 “yn brif drysor crefyddol, diwylliannol a llenyddol ein cenedl”. Yn wir, oni bai am gyfieithiad 1588, mae’n ddigon posibl na fyddai’r Gymraeg yn iaith fyw heddiw.

Yn 1620 ymddangosodd fersiwn diwygiedig o ‘Feibl William Morgan’ wedi ei olygu gan Dr John Davies, Mallwyd, un o ysgolheigion pennaf y Gymraeg. Y fersiwn diwygiedig hwnnw oedd testun safonol y Beibl yn y Gymraeg hyd at ddiwedd yr ugeinfed ganrif; ac un o fwriadau’r arddangosfa bresennol yw nodi 400 mlwyddiant cyhoeddi Beibl 1620, testun a fu mor ddylanwadol yn hanes Cymru.

Treuliodd John Davies fisoedd lawer yn Llundain yn llywio Beibl 1620 drwy’r wasg. Rhan arall o ffrwyth ei arhosiad yn Llundain oedd cyhoeddi yn 1621 dri llyfr arall a fu’n fawr eu dylanwad:

• argraffiad diwygiedig o’r cyfieithiad Cymraeg o’r Llyfr Gweddi Gyffredin, sef llyfr gwasanaethau’r Eglwys Wladol;

• Salmau Cân Edmwnd Prys, y llyfr printiedig cyntaf yn y Gymraeg i gynnwys cerddoriaeth;

• a gramadeg Cymraeg John Davies ei hun, campwaith a oedd yn garreg filltir eithriadol bwysig yn hanes astudio’r iaith.

Mae’r cynhaeaf rhyfeddol hwn o lyfrau oll yn cael sylw yn yr arddangosfa hon.

Beiblau Mary Jones

Yn 1800, fe gerddodd merch dlawd, 15 mlwydd oed, yn droednoeth o’i bwthyn yn Llanfihangel-y-Pennant wrth droed Cader Idris i’r Bala, taith o dros 25 milltir.

Mary Jones oedd ei henw. Dysgodd ddarllen pan oedd tua 10 mlwydd oed, ac o hynny ymlaen byddai’n cerdded yn rheolaidd i ffermdy ryw ddwy filltir o’i chartref er mwyn darllen y Beibl.

Hiraethai am gael ei Beibl ei hun, ond roeddynt yn ddrud a hithau’n dlawd iawn.

Ond erbyn 1800 roedd wedi cynilo digon i allu prynu copi; a diben ei thaith i’r Bala oedd prynu ei chopi ei hun o’r Beibl gan Thomas Charles, un o arweinwyr Cristnogol amlwg y dydd.

Roedd Thomas Charles yn daer am weld cyflenwad cyson o Feiblau fforddadwy ar gyfer gwerin bobl Cymru. Mewn cyfarfod yn Llundain, apeliodd am greu cymdeithas a fyddai’n cyhoeddi Beiblau Cymraeg rhad, a ffrwyth ei apêl oedd sefydlu yn 1804 Gymdeithas y Beibl, a’r nod o ddarparu Beiblau nid yn unig i Gymru ond hefyd i bob rhan o’r byd.

Mae’n debyg fod Thomas Charles yn ystod ei apêl wedi adrodd hanes Mary Jones a’i hymdrechion i gael Beibl, a bod ei stori hi wedi creu argraff ddofn ar ei wrandawyr.

Erbyn hyn, mae stori Mary Jones wedi mynd yn boblogaidd ar draws y byd. Mae llawer dros y blynyddoedd wedi eu cyffwrdd a’u hysbrydoli gan ei hymdrech fawr yng nghanol ei thlodi i gael Beibl. Bellach, mae ei hanes ar gael mewn tua 40 o ieithoedd, a rhwng hynny a phresenoldeb amlwg ei stori ar-lein, gellir dweud yn hyderus mai Mary Jones yw Cymraes enwocaf y byd.

Un peth nodedig am yr arddangosfa hon yw bod ynddi bedair eitem sy’n agos gysylltiedig â Mary Jones, na fuont gyda’i gilydd erioed o’r blaen:

• y copi eiconig o’r Beibl a gafodd Mary Jones gan Thomas Charles yn y Bala yn 1800, sydd ar fenthyg oddi wrth Gymdeithas y Beibl a Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt;

• y copi o’r Beibl y byddai Mary Jones yn cerdded am flynyddoedd i’w ddarllen cyn iddi allu fforddio prynu ei Beibl ei hun, ar fenthyg oddi wrth Gyngor Sir Ddinbych;

• Beibl arall a gafodd Mary Jones oddi wrth Thomas Charles yn 1800 ar gyfer perthynas iddi;

• copi o Destament Newydd (1819) Cymdeithas y Beibl a fu’n eiddo i Mary Jones.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol: “Mae’r Llyfrgell yn falch iawn o fod wedi medru trefnu’r arddangosfa ardderchog hon sy’n arddangos a dathlu rhan mor bwysig o’n hanes fel Cymry a sut y bu i ni gyfrannu at ledaenu’r Beibl ar draws y byd, a’r buddion cymdeithasol ac addysgol a ddaeth o ganlyniad i hynny.”

Mae’r arddangosfa i’w gweld yn Oriel Hengwrt. Mae mynediad yn rhad ac am ddim drwy archebu tocyn.