MEWN seremoni arbennig o lwyfan y Pafiliwn Gwyn ym Meifod, datgelwyd mai Lois Medi Wiliam, yn wreiddiol o Benrhosgarnedd, Bangor yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn. Noddwyd y seremoni gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans.
Mae Lois ar fin graddio o Ysgol Economeg Llundain (LSE) mewn Anthropoleg Gymdeithasol. Mae hi’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd y Garnedd, Bangor lle’r enillodd ei chadair eisteddfodol gyntaf. Enillodd hefyd goron eisteddfod Ysgol Tryfan, Bangor a chadair eisteddfod Ysgol Uwchradd David Hughes, Porthaethwy.
Ddwy flynedd yn ôl daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Medal Ddrama yr Urdd. Y llynedd dyfarnwyd iddi Dlws D. Gwyn Evans gan Gymdeithas Barddas am y gerdd orau i rai rhwng 16 a 25 oed. Mae hi eisoes wedi cyhoeddi cerddi yn Codi Pais ac yn Ffosfforws (Cyhoeddiadau’r Stamp), ond dyma’r tro cyntaf iddi gyhoeddi ei barddoniaeth yn unigol.
Y dasg eleni oedd cyfansoddi cerdd neu gerddi caeth neu rhydd heb fod dros 100 o linellau ar y testun: ‘Gwrthryfela’. Ysgrifennodd Lois y gerdd fuddugol er cof am ei thaid, un a hybodd ei diddordeb mewn llenydda.
Dywedodd y beirniaid Tegwyn Pughe Jones a Mari George fod Lois yn haeddu’r gadair am ‘gynildeb hyfryd’ ei cherdd.
“Fe lwyddodd cerdd syml y bardd hwn i fynd â fy ngwynt. Ymgais i ddygymod â galar sydd yma ac mae’r dweud yn hynod afaelgar o’r dechrau un. Nid yw’r thema yn y gerdd yn newydd ond mae arddull ymatalgar a chynnil y bardd a’r ymdriniaeth a’r thema yn taro deuddeg. Mae’n llwyddo i gyfleu hiraeth a thristwch mewn ffordd aeddfed heb bentyrru ansoddeiriau a heb greu darluniau sentimental.”
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Brennig Davies o Gaerdydd a Tesni Elen Peers o Wrecsam yn drydydd. Bydd gwaith y ddau yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Urdd heddiw. Bydd y gwaith buddugol ynghyd â'r feirniadaeth ar gael i'w darllen yng Nghyhoeddiadau’r Stamp ar ôl y seremoni.
Mae Lois yn derbyn cadair hardd wedi ei chreu gan y saer Siôn Jones o Lanidloes a’i rhoi gan NFU Cymru Maldwyn.
Meddai Siôn am y profiad o greu cadair Eisteddfod yr Urdd Maldwyn: “Mae creu cadair Eisteddfod yr Urdd yn gyfle unwaith mewn bywyd, ac mae creu'r gadair ar gyfer ardal sy’n golygu gymaint i fi a’r teulu yn fraint. Mae’r Urdd yn bwysig i Gymru ac yn dod â phobl â’r iaith at ei gilydd, mae’r ffaith bod fy nghadair i yn mynd i serennu ar lwyfan Eisteddfod Maldwyn yn rhywbeth dwi’n falch iawn ohono.”
Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru, er cof am Olwen Dafydd. Mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.