MAE band o Aberystwyth yn lansio albym newydd y penwythnos nesaf, ac yn dathlu’r lansiad efo ddau gig yn y dref.
Bydd unrhyw un o ardal Aberystwyth sydd wedi dangos unrhyw ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes dros y blynyddoedd diwethaf yn gyfarwydd iawn â’r enw Mellt.
Mae gan Ysgol Penweddig draddodiad cryf o gynhyrchu bandiau Cymraeg o safon gyda’r cyfnod mwyaf llewyrchus efallai rhyw ddeg mlynedd yn ôl gyda thon o grwpiau – Mozz, Radio Luxembourg, Kenavo a’r Poppies.
Ond ers hynny Mellt, neu Y Gwirfoddolwyr i ddefnyddio eu henw gwreiddiol, sydd wedi cadw’r fflam yn fyw gan gigio rheolaidd ledled Cymru a thu hwnt.
Er yn ifanc o hyd – mae’r tri aelod dal yn y coleg – maen nhw wedi hen ennill eu plwyf yn y sin. Ond er gigio’n gyson ac adeiladu tipyn o ddilyniant, bydd yn syndod i rai glywed mai yr EP pedwar trac, Cysgod Cyfarwydd, o 2014 ydy’r unig gynnyrch i’w ryddhau ganddynt hyd yma.
Mae’r cyhoeddiad diweddar y byddan nhw’n rhyddhau eu halbwm cyntaf ar 20 Ebrill yn gam mawr ymlaen i’r grwp felly, ac yn newyddion a groesawyd yn gynnes gan eu dilynwyr. Y newyddion gwell fyth i’w ffans yn Aber ydy bod y triawd am ddychwelyd adref i fro eu mebyd i lansio’r albwm, gyda dau gig yn y dref ar y dyddiad rhyddhau.
Bu’r triawd, Glyn Rhys-James, Ellis Walker a Jacob Hodges, yn byw yng Nghaerdydd ers rhai blynyddoedd wrth astudio yn y brifysgol yno.
Ond, yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Penweddig a Phenglais, mae eu gwreiddiau wedi’u plannu’n ddwfn yn Aberystwyth.
Mae’n briodol felly y bydd dau gyfle i’w gweld yn perfformio caneuon eu halbwm newydd Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc yn Aber ar ddiwrnod y lansiad.
Bydd y gig cyntaf ar dydd Gwener, 20 Ebrill, yn digwydd yn y Bandstand yn dilyn rhagbrawf cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Radio Cymru/Maes B.
Mae’r gig yn digwydd rhwng 6yh a 9yh gyda’r bwriad o fod yn hygyrch ar gyfer teuluoedd a chriw oedran uwchradd yn arbennig, er bod croeso cynnes i bawb.
Bydd tri band yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau sef Miskin, Cyffion a Mari Mathias ac mae’n werth dod i gael blas o dalent y dyfodol.
Yna, yn hwyrach yn y noson byddan nhw’n perfformio yn y Llew Du gyda mynediad am ddim i unrhyw un fu yn y Bandstand hefyd. Dyma chi gig sy’n siwr o droi’n barti, ac mae gwahoddiad i bawb alw draw i ddathlu rhyddhau albwm cyntaf y bois lleol.





.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.