Yn dilyn yr ymateb gwresog i’r nofel Ceiliog Dandi y llynedd am anturiaethau’r bardd Dafydd ap Gwilym, penderfynodd Daniel Davies fynd ati i ysgrifennu mwy o straeon am y bardd enwog o’r 14eg ganrif.

Unwaith yn rhagor, mae’r awdur yn ymuno â Dafydd ap Gwilym a’i was, Wil, yn nhafarn yr Hen Lew Du yn Aberteifi, lle mae’n treulio talp helaeth o’i amser gydag aelodau eraill ei fagad barddol, Madog Benfras ac Iolo Goch.

Yno hefyd mae’r Bwa Bach, trefnwr teithiau Cymdeithas y Cywyddwyr, Rhigymwyr, Awdlwyr a Phrydyddion o amgylch neuaddau’r uchelwyr, a’i wraig, Morfudd ? merch benfelen y mae Dafydd mewn cariad â hi ers blynyddoedd. Yn anffodus, er ei bod yn gyfeillgar iawn, iawn gyda nifer o ddynion mewn nifer o drefi ledled Cymru, does gan Morfudd ddim diddordeb o gwbl yn Dafydd druan. Mae landledi’r Hen Lew Du, ar y llaw arall, Dyddgu, yn hoff iawn o Dafydd, ond gan fod ei fryd ar Morfudd does ganddi ddim siawns o ddenu ei sylw.

Fel yr eglura’r awdur sydd yn byw ym Mhen-y-bont Rhydybeddau, ger Aberystwyth: “Mae’r stori’n ymwneud ag anturiaethau dychmygol ym mywyd Dafydd ap Gwilym a’i gyfoedion wrth i’r Pla Du nesáu at Gymru yn ystod 1347. Dewisais ddefnyddio ei farddoniaeth fel llamfwrdd i’r straeon, sydd, rwy’n gobeithio, yn ddoniol ac anturus am gyfnod cythryblus yn hanes Cymru ac Ewrop.”

Mae Oes Eos yn dilyn hynt a helynt Dafydd a’i gyfoedion wrth iddynt ymrafael gyda fersiwn y cyfnod o ‘cover band’, sef y Datgeiniaid, troeon trwstan yn ystod ymweliad â ffair Ganoloesol, eu trafferthion wedi iddynt ddod o hyd i Grair Sanctaidd a’r anhrefn yn dilyn ymweliad Dafydd ag Ystrad Fflur, ymysg helyntion eraill.

Medd Daniel: “Heblaw am ddod i adnabod beirdd fel Dafydd ap Gwilym, Iolo Goch a Madog Benfras yn well rwy’n gobeithio y bydd darllenwyr yn cael blas ar naws y cyfnod ac yn chwerthin yn iach wrth weld y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng pobl Cymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r unfed ganrif ar hugain.”

Ychwanegodd: “Bu’n rhaid imi ddarllen pob un o gerddi’r bardd (151 i gyd) yn drwyadl, yn ogystal â darllen nifer o lyfrau ar waith a bywyd y bardd. Hefyd roedd angen darllen tipyn am hanes Lloegr ac Ewrop yn ystod blynyddoedd cynnar y Rhyfel Can Mlynedd i chwilio am ddeunydd crai.”

Fel yn achos Ceiliog Dandi, mae darluniau gwreiddiol gan yr artist Ruth Jên ar glawr y nofel ac ar ddechrau pob pennod.

Mae Oes Eos ar werth mewn siopau llyfrau, ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg.gwalch.cymru a gwefan y Cyngor Llyfrau, www.gwales.com