Mae 10 o fyfyrwyr cwrs gradd sylfaen iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, safle Dolgellau wedi bod yn llwyddiannus i dderbyn ysgoloriaeth cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Roedd yr ysgoloriaethau, gwerth £1,500 yr un dros dair blynedd, ar gael i fyfyrwyr ym mlwyddyn cyntaf y cwrs oedd yn cyflawni o leiaf 40 credyd o’u cwrs addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ôl Sara Davies, swyddog cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Ngrwp Llandrillo Menai: “Dyma garreg filltir gadarnhaol i Grwp Llandrillo Menai o ran cynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae hybu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg mewn iechyd a gofal yn faes blaenoriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac rydym yn ddiolchgar iawn o’r ysgoloriaeth cymhelliant a dderbyniwyd.
“Bydd hyn yn rhoi hyder i’r myfyrwyr barhau â’u hastudiaethau yn Gymraeg a’u harfogi o werth y Gymraeg yn y gweithle.
“Dros y blynyddoedd nesaf, rydym yn gobeithio bydd ysgoloriaethau ar gael i wahanol gyrsiau ar draws Grwp Llandrillo Menai. Yn sicr dyma gyfnod cyffrous iawn o ran datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau.”







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.