Capel Soar

FORE Sul, 24 Ionawr am 10yb cynhaliwyd gwasanaeth gan Arwyn Owen Hughes, Llithfaen.Roger Stephens Jones, Nefyn oedd yn gyfrifol am gyfarfod yr hwyr am 5.Arwyn Hughes oedd wrth yr organ i’r ddau wasanaeth, gyda Gwyn Hughes a Dan Owen yn llywyddu.

O Ddrws i Ddrws

MAE O Ddrws i Ddrws yn rhedeg gwasanaeth bws o Lyn i Ysbyty Gwynedd bob dydd Llun, Mercher a Gwener am ddim ond £1 bob ffordd. Roedd hwn yn brosiect dri mis yn wreiddiol. Dechreuodd ym mis Tachwedd, ond oherwydd bod defnydd da arno, bydd y gwasanaeth yn cario mlaen. Mae’r bws yn cychwyn o Lyn i gyrraedd Ysbyty Gwynedd, yn hwylus ar gyfer amser ymweld rhwng 1.30yp – 2.30yp. Bydd yn codi o bentrefi hyd a lled Llyn. Rhaid i deithwyr fwcio trwy gysylltu gydag O Ddrws i Ddrws ar 01758 721777 neu e-bostio [email protected]

Ladies Club

NEFYN and District Ladies’ Club have thanked new member Tina Martin, for kindly stepping in at short notice to replace the planned speaker who was unable to attend due to illness. Tina gave an engaging, informa-tive presentation about her work with drug and alcohol users in a previous role in the south of England.The next meeting will be on 4 February in the Nanhoron Hotel, when Buddug Jones will talk about Guide Dogs for the Blind.New members welcome.

Disgo

CYNHELIR Disgo Superhero yn y Ganolfan ar Chwefror, rhwng 5-6yh. Bydd mynediad yn £1 y plentyn; angen oedolyn gyda plant o dan 7 oed.Bydd hot dogs, diod, fferins, creision a raffl ar gael.Bydd Elusennau Efan yn rhoi’r elw i Make a Wish.