Capel Soar

FORE Sul, 22 Mai, cafwyd gwasanaeth gan y Parch Cassie M Jones, Clynnog Fawr – ‘Yr Iesu yn cael ei holi am ei ffydd’. Dan Owen am 5yh oedd mewn gofal o’r gwasanaeth a thestun Dan oedd ‘Gwialen o Gyff’ a bu Janet Wyn Hughes wrth yr organ i’r ddau wasanaeth.Fore Sul, 29 Mai, am 10yb cafwyd gwasanaeth gan y Parch Huw John Hughes, Bangor a’i destun oedd ‘Y dyn ar ysbryd aflan’. Roedd cyfarfod yr hwyr yng ngofal Arwyn Owen Hughes ar ‘Gwarchod y Winllan’ ac Arwyn fu wrth yr organ i’r ddau wasanaeth.

Pensioners club

A MEETING was held at Y Ganolfan on Tuesday, 7 June, with Mrs B W Jones in the chair. Mrs Jones welcomed members and sent best wishes to members unable to attend. Mrs Jones welcomed Rev Glenys Jones who gave an illustrated talk on her visit to Patagonia. She was thanked by Mrs Jones for an enjoyable and informative afternoon. The next meeting will be on Tuesday, 5 July, when payment will be taken for the mystery trip on 12 July.

Merched y Wawr

CYFARFU Merched y Wawr ar nos Wener, 10 Mehefin yng Nghaffi Ni, Wern, i ddiweddu’r tymor a chafwyd pryd o fwyd ardderchog a chroeso cynnes gan Nia a Dylan. Cytunodd Margaret i fod yn lywydd y tymor nesaf a Nansi a Dilys i barhau yn drysorydd ac ysgrifennydd, gyda Marian yn dosbarthu’r Wawr. Bydd cyfarfod anffurfiol am 7yh, nos Wener, 8 Gorffennaf, i drefnu’r rhaglen newydd.