Dros yr wythnosau diwethaf mae cyfres arbennig ar S4C - Nôl i’r Gwersyll - wedi mynd â gwylwyr ar daith nôl mewn amser i Wersyll yr Urdd Llangrannog.
Gan ddechrau yn y 50au a symud ymlaen at yr 80au, mae pob pennod yn rhoi cyfle i griw o gyn-wersyllwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau gamu nôl i brofi penwythnos yn y gwersyll i hel atgofion a chreu rhai newydd.
Ac ym mhob pennod yn y gyfres, sy’n rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Urdd, mae’r gwersyllwyr yn cael profiad gwyliau o’r gorffennol gyda’r bwyd, y dillad, y gweithgareddau a’r adloniant i gyd yn driw i’r cyfnod.
I ofalu ac i arwain y gwersyllwyr, wrth gwrs, mae’r swogs - ac fe fydd sawl wyneb cyfarwydd yn eu plith. Ieuan Rhys, Martyn Geraint a Keith ‘Bach’ Davies sy’n swogio yn y rhaglen o’r 80au ar nos Sul 6 Tachwedd.
Meddai Martyn: “Oni’n gweithio yn y siop; oni hefyd yn plico tato a’u paratoi ar gyfer y sglodion - atgofion melys iawn. Mae’n braf bod nôl yma yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog – o’dd e fel dod getre.”
Roedd Keith yn swog ar ddechrau’r 80au. “Mae dal atgofion melys iawn ‘da fi. A’r ffrinidie nes i bryd hynny, fi dal yn ffrindie gyda nhw.”
Bu datblygiadau mawr yn y gwersyll yn yr 80au ac mae’n ta ta ar y pebyll a’r cabannau wrth i floc cysgu newydd a champfa cael eu hadeiladu. Dyma’r degawd cyntaf i’r bechgyn gael cysgu mewn dorm!

Ar ddiwedd yr 80au cyflwynwyd gweithgaredd newydd i’r gwersyll - un sydd wedi bod yn ffefryn i nifer ers hynny sef sgïo!
Yn ystod y rhaglen hon cawn weld y gwersyllwyr yn mwynhau ar gwrs rhaffau ac yn paratoi ar gyfer noson yn y disco - ac yn ymuno yn hwyl y disgo bydd gwesteion go arbennig, sef criw o ffoaduriaid o Wcráin sydd yn aros yn y gwersyll.
Meddai Keith: “Ar hyd y blynyddoedd mae gwaith teyrngarol yr Urdd a’r brawdgarwch maen nhw wedi dangos ar draws y byd a hybu heddwch wedi bod yn anhygoel ac mae hyn yn parhau wrth i ni groesawu ffrindiau o Wcráin yma gyda ni.”
Ond dyw rhai pethau heb newid dros y blynyddoedd gyda phawb yn mynd am dro o’r gwersyll i’r traeth ac yn rasio mewn i’r môr, gwario arian yn y siop a thacluso eu hystafelloedd.
Meddai Ieuan ar ddiwedd ei benwythnos o swogio: “Wi jyst yn meddwl pa mor lwcus yw plant Cymru i gael hwn. Mae cymaint wedi newid ers i’r adeg oni’n swogo fan hyn ac mae’n anhygoel yma.”
Fe wnaeth Aled Webb Price a’i deulu gymryd rhan yn rhaglen yr 80au - felly beth oedd ei ymateb ef i’r profiad? Meddai Aled: “Fel arfer da ni’n nagio’r plant - yn yr 80au oni ddim yn gallu aros mewn trwy’r amser - oni mas trwy’r amser. Ac maen nhw wastad yn dweud ‘wel - beth oedd e fel yn yr 80au?’ - a nawr maen nhw wedi profi hynna eu hunain. Does dim unrhyw sôn wedi bod am gadjets neu dechnoleg o gwbl - mae e wedi bod yn hyfryd.”
Gallwch ddal i fyny gyda holl anturiaethau’r gwersyllwyr a’r swogs trwy wylio’r gyfres gyfan sydd nawr ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Nôl i’r Gwersyll: Yr 80au Nos Sul 6 Tachwedd 8.00, S4C Isdeitlau Saesneg Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C