AR ôl blynyddoedd yn chwarae’r rhan Kelvin Walsh yn Rownd a Rownd, mae’r actor Kevin Williams yn wynebu her newydd fel cyflwynydd cyfres realiti S4C, Bar Hansh.

Wrth drafod y cyfle, dywedodd Kevin: “Daeth o allan o nunlla i fod yn onest. Oni’n meddwl mai prank call gan un o ffrindiau fi o’dd o. Oni ddim cweit yn coelio’r peth tan ges i e-bost reit ffurfiol wedyn, ac oni’n gwybod adeg yna bod o ddim yn prank call.”

Wedi’i osod ar y strip enwog yn Zante, mae’r gyfres yn dilyn chwech o bobl ifanc wrth iddyn nhw geisio rhedeg bar Cymreig ar yr ynys.

Mae mwy yn y fantol nag erioed yn y gystadleuaeth eleni, wrth i’r cystadleuwyr gael y cyfle i gynyddu’r wobr i hyd at £10,000. Bydd y cyfanswm yn dibynnu ar eu perfformiad mewn cyfres o sialensau.

Dywedodd Kevin: “Tro yma, mae potensial i ennill hyd at £10,000. Mae o i gyd yn eu dwylo nhw faint o bres sydd yn y pot felly mae’n rhaid iddyn nhw weithio fel tîm i neud gwahanol dasgau i ychwanegu at y pot fydd ganddyn nhw ar y diwedd.”

Ond mae tro yng nghynffon y gystadleuaeth, wrth i’r cystadleuwyr bleidleisio i roi’r sac i un o’r criw bob wythnos.

Fel cyflwynydd, bydd Kevin wrth law i dywys y criw a’r gwylwyr trwy bob sialens, her a llwyddiant wrth i’r cystadleuwyr gymysgu bywyd a gwaith yn un o fannau gwyliau mwyaf enwog Ewrop.

Mae’r gyfres yn bennod newydd yn ei yrfa teledu, wrth iddo droi ei law at gyflwyno am y tro cyntaf ar ôl 27 mlynedd yn actio Kelvin yn Rownd a Rownd.

Dywedodd Kevin: “Dwi wedi cael y cyfle i neud rywbeth gwahanol na actio. Dwi wedi cael dod allan i Zante i gyflwyno Bar Hansh, felly fi fydd bos y bar allan yna a dwi’n edrych ymlaen!”

Ychwanegodd: “Y peth anodda’ oedd bod yn fi’n hun! Achos dwi wedi actio fel Kelvin Walsh am gymaint o amser. Doeddwn i ddim yn Kelvin fama, oni’n fi fy hun.”

Mae Bar Hansh ar gael ar sianel YouTube Hansh, S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.