BYDD un o gymeriadau mwyaf adnabyddus Pobol y Cwm yn ymddangos am y tro olaf heddiw, gan ddod â stori emosiynol Anita a’i brwydr â dementia i ben.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r gynulleidfa wedi gwylio cyflwr Anita yn dirywio’n raddol mewn un o straeon mwyaf pwerus yr opera sebon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ddangos effaith y cyflwr arni hi a’r rhai sydd agosaf ati.

Bydd y bennod yn ffarwelio ag un o drigolion mwyaf cyfarwydd Cwmderi, gydag ambell wyneb o’r gorffennol yn ymddangos fel rhan o’i thaith olaf.

Mae’r actor Nia Caron wedi portreadu Anita yn Pobol y Cwm ers 27 mlynedd.

“Mae wedi bod yn gyfnod trist iawn,” dywedodd Nia Caron, “ond rwy’n falch bod y stori wedi cael amser teilwng yn hytrach na rhuthro fe. Mae wedi galluogi’r gynulleidfa i gael bod yn rhan o’r salwch gyda hi hefyd.

“Mae hi wedi bod trwy lot. Ond, roedd rhywbeth yn Anita. Mae’n gryf, mae’n gadarn.”

Mae’r bennod wedi’i ffilmio mewn dull gwahanol i’r arfer hefyd, a’r cyfan o safbwynt Anita.

“Mae’r bennod werth ei gwylio,” ychwanegodd Nia Caron. “Mae’n galonogol a mi fydd e’n codi calon.

“Dyna rwy’n gobeithio sydd mynd i ddod drosodd i bobl sy’n byw gyda rhywun sy’n dioddef o’r clefyd hyll yma. Mae’n rhaid i chi gofio pob dydd – er y tristwch, cofiwch am yr adegau mwyaf hyfryd, cariadus gafwyd gyda’r pobl yma.”

"A cofiwch i barhau i wylio, a pheidiwch anghofio amdani. A fi’n siŵr byddwch chi ddim yn cael cyfle i anghofio amdani achos bydd rhywun rhywle yn siarad amdani yn y pentre, fi’n gobeithio, mewn ffordd bositif.”

Cafodd y stori ei datblygu gyda chefnogaeth yr elusen Alzheimer's Society. Roedd staff yr elusen yn gweithio gyda’r tîm cynhyrchu er mwyn eu helpu i ddeall dementia gyda Chyrff Lewy yn well a’u cysylltu â phobl gyda phrofiad uniongyrchol o fyw gyda’r cyflwr.

Dywedodd Rachel Nelson, Rheolwr Gwlad Cymru dros Wasanaethau Lleol yn Alzheimer's Society Cymru: “Yn Alzheimer's Society Cymru, rydym yn croesawu straeon fel stori Anita gan eu bod yn helpu i ddod â dementia i gartrefi a chymunedau ledled Cymru ac yn annog sgyrsiau fydda’i efallai ddim yn digwydd fel arall.

“Rhywbeth mae Pobol y Cwm wedi ei ddangos yn arbennig o dda yw bod dementia ddim yn effeithio ar un unigolyn yn unig. Mae'n effeithio ar berthnasau, teuluoedd, ffrindiau a'r gymuned ehangach.

“Mae dementia yn newid bywydau, ond gall dealltwriaeth a chefnogaeth wneud gwahaniaeth. Mae straeon fel hyn yn helpu i leihau stigma, meithrin dealltwriaeth ac annog pobl i gael cymorth yn gynharach.”

Mae pennod olaf Anita ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer nawr a bydd yn cael ei ddarlledu ar S4C heno am 20:00.