MAE Aleighcia Scott wedi galw am ffilm o chwedl Cantre’r Gwaelod, wrth iddi ddysgu am darddiad y gân Clychau Cantre’r Gwaelod mewn cyfres newydd ar S4C.
Mae stori Cantre’r Gwaelod, sydd wedi ei lleoli ar ddarn o dir chwedlonol oddi ar Fae Ceredigion, yn dyddio yn ôl i’r chweched ganrif, gyda rhai yn amau ei bod hi hyd yn oed yn hŷn.
Daw Aleighcia i wybod mwy am y chwedl drwy ei ffrind Luke Davies yn y bennod ddiweddaraf o Gwalia Aleighcia.
“Ni angen rhywun i ‘neud ffilm o hwn,” meddai Aleighcia yn y rhaglen.”
“Ie, bydde fe’n ‘neud ffilm grêt i fod yn onest,” meddai Luke.
“Ac yn ôl y sôn, os ‘ych chi’n gwrando’n astud, gallwch chi glywed clychau Cantre’r Gwaelod yn canu.”

Wrth i Aleighcia ddysgu mwy, mae hi’n awyddus i glywed a yw hanes Seithennyn a’r llifddorau agored yn wir.
“Wel, pwy a ŵyr,” ychwanega Luke. “Ond mae ‘na bach o dystiolaeth. Mae nodweddion archeolegol fel olion traed a hefyd anifeiliaid sydd wedi cael eu ffosileiddio.
“Maen nhw wedi darganfod hen lwybr pren hefyd sy’n dyddio ‘nôl i tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl a offer o’r cyfnod Mesolithig.
“Felly, mae arbenigwyr yn dweud bod hyn yn dystiolaeth o bobl yn byw yma ar un adeg.”
Fel siaradwr Cymraeg newydd sydd yn falch o fod yn dysgu'r iaith, mae Aleighcia yn awyddus i ymdrochi ei hun yn niwylliant yr iaith a dysgu mwy am darddiad rhai o ganeuon enwocaf Cymru.
Yn ystod y rhaglen, mae Aleighcia yn perfformio Clychau’r Cantre’r Gwaelod, gyda Patrick Rimes a Jordan Price Williams.
Bydd Gwalia Aleighcia yn darlledu ar S4C am 20.25 nos Fercher ac mae’r gyfres hyd yma ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.