YR wythnos hon cyhoeddir almanac Cymraeg a Chymreig, cyfrol hardd, lawn lluniau sy’n ein tywys ni drwy’r flwyddyn ac sy’n ddathliad o bob mis.
Mae Almanac: O fis i fis (Y Lolfa) yn llyfr clawr caled ac yn waith pedwar aelod o’r un teulu – Ruth Morgan a’i merched Rhiannon Mair, Bethan Mai a Mari, yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin.
Mae’r almanac hyfryd hwn yn trafod traddodiadau ac arferion hen a newydd Cymru, a’r holl ddiwylliannau sy’n cyfoethogi ein gwlad, gan gynnig ffeithiau a syniadau fydd yn annog, yn pryfocio ac yn codi gwên, yn ogystal â lle i gofnodi pen-blwyddi teulu a ffrindiau.
Fe fydd yn gymorth i gofio am y pethau bychain sydd o bwys mawr wrth fordeithio ar hyd siwrnai blwyddyn ac yn ein hannog, yng nghanol prysurdeb bywyd, i sylwi ac i wrando ar natur.
Meddai Rhiannon Mair: “Fel teulu rydym yn hoff iawn o ddathlu’n dywediadau teuluol a thymhorol, ac rydym wedi gweld, ers Cofid efallai, bod talu sylw at ein hamgylchedd yn ystod y flwyddyn wedi ein helpu i ddaearu.
“Mae ambell almanac wedi bod ar silff Mami (Ruth Morgan) ers tro gan gynnwys y bytholwyrdd Almanac y Teulu (gol. Myrddin ap Dafydd). Daeth y syniad o greu un ein hunain yn organig iawn, fel petai’r pedair ohonom wedi meddwl am y peth ar yr un pryd!”
Daeth y teulu at ei gilydd gyda Rhiannon, Bethan, Mari a Ruth yn bwrw ati i gasglu’r deunydd amrywiol, gan gynnwys diarhebion, traddodiadau, ryseitiau, ffeithiau a cherddi ac yna Bethan Mai, sydd hefyd yn arlunydd, yn creu lluniau gwreiddiol i gyd-fynd â’r geiriau.
Meddai Bethan Mai: “Roedd cydweithio fel teulu’n syndod o hawdd! Mae’r broses wedi cymryd rhai blynyddoedd, felly ry’n ni wedi gallu gweithio ar y prosiect pan oedd hi’n gyfleus i ni, a gadael i rywun arall weithio ar ran arall yn y cyfamser.”
Meddai Ruth Morgan: “Ro’n ni’n credu bod gennym y deunydd a’r diddordeb i ni allu myfyrio ar y flwyddyn, yn ffeithiol ac yn greadigol, mewn modd Cymreig a phersonol, a’n gobaith oedd y byddai hynny’n taro tant gyda chynulleidfa ehangach.
“Nid almanac am un flwyddyn yn benodol yw hwn, felly gellir troi ato dro ar ôl tro; mae lle ynddo i nodi pen-blwyddi neu ddyddiadau arbennig, felly gobeithio y bydd yn gydymaith gwerth chweil.
“Gobeithio y bydd pobl yn darllen y llyfr ar eu telerau nhw.
“Yn bersonol, bydden i’n darllen am bob mis yn ystod y mis hwnnw, ond os yw’r darllenwyr yn cael blas mae croeso iddyn nhw ddarllen y gyfrol i gyd yn un swp!
“Mae’n llyfr amrywiol iawn o ran arddull, felly ni’n gobeithio bod rhywbeth ynddo neith apelio at bawb. Gobeithio y bydd yn ysgogiad i ddarllenwyr ystyried eu perthynas gyda’r flwyddyn a’r hyn sydd o’u hamgylch, ac os nad hynny, y byddan nhw’n cael mwynhad o fodio’r llyfr pert.”
Bydd Almanac: O Fis i Fis yn cael ei lansio’n swyddogol ym Mharc yr Esgob, Abergwili, Caerfyrddin ar nos Sadwrn 22ain o Dachwedd am 6 o’r gloch. Bydd Carys Ifan yn holi’r awduron a pherfformiad gan Osgled. Croeso mawr i bawb!
Mae Almanac: O Fis i Fis gan Rhiannon Mair, Bethan Mai, Ruth Morgan a Mari Morgan ar gael nawr (£14.99, Y Lolfa).





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.