PRIN ydi’r gyrfaoedd sy’n rhoi unigolyn mewn sefyllfa mor ddiamddiffyn ac agored i’r elfennau â gyrfa fel comedïwr stand-yp.

Nid tasg hawdd mo llwyddo i wneud i lond stafell o bobl wenu, heb sôn am chwerthin.

Wrth gwrs, mae ambell stafell yn haws i’w meddalu nag eraill… fel sy’n dod i’r amlwg yn y gyfrol fach unigryw hon.

Mae’r Lolfa yn cyhoeddi profiadau 10 o gomedïwyr Cymraeg ar y llwyfan.

Mae Marw Chwerthin, sydd wedi’i olygu gan Susan Roberts, yn cynnwys hanesion gan Mel Owen, Carwyn Blayney, Carys Eleri Gary Slaymaker, Hywel Pitts a nifer o gomediwyr amlycaf eraill Cymru.

Mae deg digrifwr y gyfrol hon yn rhannu eu profiadau am droeon trwstan eu byd gwaith comedïol a’u bywydau personol.

Yn Marw Chwerthin mi gawn ni flas ar rai o brofiadau comedïwyr y genedl sydd wedi’u serio a’u creithio ar y cof – o berfformio mewn gìg y drws nesaf i de angladd i sefyll y drws nesaf i ‘frenin’ Cymru i bi-pi!

Ceir hefyd straeon am orffen set hunllefus drwy lithro i mewn i’r sblits mewn skinny jeans ar lawr seimllyd, am brawf meddygol go lletchwith yn Aber, ac am drefnwr a llywydd un noson a oedd ar dân i ddwyn y gìg i ben cyn gynted â phosib er mwyn iddo gael dianc i barti â Piers Morgan.

Meddai’r golygydd, Susan Roberts: “Mae terminoleg y byd stand-yp yn adlewyrchu natur ddidrugaredd y gwaith.

“Mae gìg da yn golygu ‘lladd y gynulleidfa’ a gìg gwael yn golygu ‘marw’ ar y llwyfan.

“Mae Marw Chwerthin yn deyrnged i’r comedïwyr sydd yn ein diddanu, er gwaetha’r amgylchiadau. Mae’n jobyn a hanner.”

Mae Marw Chwerthin: Cyffesion Comedïwyr Cymru, gol. Susan Roberts ar gael nawr (£7.99, Y Lolfa).