MAE nofel newydd wedi cael ei chyhoeddi gan yr awdur poblogaidd Sioned Wiliam sy’n enw cyfarwydd ym myd comedi teledu’r Deyrnas Unedig.
Mae 60 Rhywbeth yn nofel ddychanol a doniol sy’n dilyn tri ffrind yn eu chwedegau.
Meddai Sioned: “Wrth i mi ysgrifennu fe sylwais i nad oedd llawer o lyfrau o gwmpas am fenywod hŷn – ry’n ni’n dueddol o fod yn anweledig.
“Ac mae’r delweddau sy’n bodoli’n gallu bod yn ystrydebol ar y cyfan – mam-gu gyda gwallt gwyn sy’n hoff o gathod ac yn y blaen.”
Ychwanegodd: “Ond mae’r rhai ohonom sydd yn ein 60au nawr yn perthyn i’r genhedlaeth pync!
“Ni’n bobol fuodd yn protestio am bopeth – Sianel Gymraeg, CND, Ynni Niwclear Dim Diolch, Gwrth-apartheid, Datganoli ac yn y blaen.
“Dyw’r ffordd yr y’n ni’n teimlo tu fewn ddim yn matsio’r hyn sydd tu fas!”
Mae’r nofel lawn hiwmor hon yn dilyn poblogrwydd y bedair nofel gyntaf.
Mae 60 Rhywbeth yn ailymweld â Delyth, Anwen a Nia (Dal i Fynd).
Maent wedi cyrraedd eu chwedegau ond dy’n nhw ddim callach! Mae eu bywydau wedi gweld newid mawr dros y degawd diwethaf.
Ond sut mae byw bywyd fel menyw hŷn? Ac yn fwy pwysig – sut mae rhywun yn mwynhau?
Ychwanegodd Sioned, sy’n byw yn Llundain a fu’n gynhyrchydd annibynnol am flynyddoedd yn gweithio ar sioeau fel Tonight With Jonathan Ross, iDot, Big Train a Yonderland: “Ro’n i am ysgrifennu am brofiadau realistig menywod hŷn – gyda’u teuluoedd, gwaith, cariadon, ac yn y blaen.
“Ac roedd gwneud hynny o safbwynt cymeriadau ry’n ni’n eu nabod ers dyddiau coleg yn caniatáu i mi weld yn glir sut mae eu bywydau wedi newid dros y blynyddoedd.
Mae gan bob un ohonyn nhw ateb gwahanol i’r sialensiau y mae heneiddio yn ei gynnig.”
60 Rhywbeth, Sioned Wiliam, Y Lolfa





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.