Mae S4C wedi comisiynu trydedd cyfres o’r rhaglen ddetio boblogaidd Amour & Mynydd.
Daw’r penderfyniad mewn ymateb i lwyddiant yr ail gyfres o’r fformat gwreiddiol a ddaeth i ben ar nos Fercher.
Yn y gyfres wreiddiol hon, mae criw o unigolion sengl yn cydfyw yn chalet Amour & Mynydd yng nghanol golygfeydd syfrdanol mynyddoedd yr Alpau Ffrengig, gan obeithio y bydd eu carwriaethau hefyd yn cyrraedd yr uchelfannau.
Mae’r ddwy gyfres gyntaf bellach ar gael i’w ffrydio ar S4C Clic a BBC iPlayer, gydag isdeitlau Cymraeg a Saesneg.
Roedd yr ail gyfres yn llwyddiant gyda chynulleidfaoedd iau, gyda data cynnar yn dangos bod mwy na 60% o gynulleidfa’r gyfres ar S4C Clic a BBC iPlayer rhwng 16-44 oed a bod dros draean ohonynt rhwng 25-34.
Bu ymateb da i gynnwys Amour & Mynydd ar gyfryngau cymdeithasol S4C hefyd gyda dros 2.3 miliwn o argraffiadau ac 1.2 miliwn o sesiynau gwylio.
Mae cynulleidfa'r ail gyfres ar deledu wedi cynnal a thyfu wrth i’r gyfres fynd yn ei blaen.
Dywedodd un gwyliwr wrth Wifren gwylwyr S4C ei bod hi’n “wych i glywed Cymraeg sgyrsiol ar ein cyfer ni sy’n dysgu Cymraeg”.
Meddai un arall: “Unrhyw dro y gwelaf glip o’r rhaglen hon dwi’n cael fy nal ganddi”.
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Mae’n amlwg bod cynulleidfaoedd S4C, fel fi, mewn cariad ag Amour & Mynydd.
“Mae’r fformat hwn yn enghraifft wych o gynnwys S4C sy’n creu sŵn, yn tanio sgwrs ac yn codi gwen, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd wrth i ni ehangu gwylio gyda’n cynnwys.
“Mae llwyddiant Amour & Mynydd ar draws ein platfformau digidol hefyd yn profi unwaith eto bod S4C yn Fwy Na Sianel Deledu.
“Er bod y chalet yn wag am y tro, mae’n bleser i gyhoeddi y gwelwn griw arall o Gymry sengl yn mentro i'r Alpau i wneud eu hunain yn gartrefol ar Amour & Mynydd.”
Os hoffech chi ymgeisio am le yn y chalet yn nhrydedd cyfres Amour & Mynydd, bydd mwy o wybodaeth maes o law.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.