Bydd S4C yn dathlu gwlad beirdd a chantorion fel rhan o arlwy Gŵyl Ddewi'r darlledwr.
Gyda chymysgedd o raglenni ffeithiol ac adloniannol, yn ogystal ag opera, mae'r cynnwys yn siwr o daro'r nodyn iawn.
Ar noswyl Gŵyl Ddewi, bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn ôl i'n harwain drwy noson o adloniant cerddorol yn fyw o Faes y Sioe, Ynys Môn, wrth i Cân i Gymru ddychwelyd am flwyddyn arall.
Bydd wyth cân yn cystadlu am y wobr, sef £5,000 ar gyfer cyfansoddwr y gân fuddugol.

Bydd modd i'r gwylwyr fwrw pleidlais i gefnogi eu ffefrynnau ar y noson ac mae modd ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio'r hashnod #CiG2026.
Ar Ddydd Gŵyl Dewi ei hun, bydd y ffilm opera Tanau'r Lloer yn darlledu ar draws holl blatfformau S4C a Channel 4, y tro cyntaf i'r ddau ddarlledwr ryddhau cynnwys yn ddigidol ar yr un pryd â'i gilydd.
Cafodd Tanau'r Lloer ei chomisiynu gan S4C a Channel 4, ac mae hi wedi'i hysbrydoli gan olygfeydd o Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard, clasur o nofel a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1961.

Hefyd ar 1 Mawrth, dilynwn y canwr Rhys Meirion wrth iddo greu fersiwn Gymraeg o un o ganeuon y diweddar Mike Peters, prif leisydd The Alarm.
Daw hyn mewn ymateb i Neges Olaf Mike Peters i Rhys, ac i wireddu ei freuddwyd, mae Rhys yn penderfynu cydweithio â meibion Mike, Dylan ac Evan, ar y recordiad arbennig.
Bydd pennod arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol hefyd yn cael ei darlledu ar Ddydd Gŵyl Dewi, gyda Nia Roberts yn cyflwyno a’r canu’n dod o Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Aiff y gantores Cerys Matthews â ni ar daith bersonol ar 4 Mawrth, i ddarganfod mwy am Stori'r Iaith Gymraeg.

Mae'n dychwelyd i'w chynefin yn Nhrefin, Sir Benfro, i glywed mwy am dafodiaith unigryw'r ardal sy'n golygu llawer iddi.
Bydd llwyfannau digidol S4C wrth galon y dathlu, gyda chyfres YouTube newydd sy'n cynnig safbwynt dychanol sêr y sioe cabaret boblogaidd Cabarela yn dechrau ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: "O wreiddiau'n hiaith i wreiddyn cân mae S4C yn rhoi llwyfan i bawb fel rhan o'n dathliadau Gŵyl Ddewi eleni.
"Mae'r arlwy sydd ar S4C dros yr ŵyl yn bluen, neu'n genhinen, yng nghap y sawl sydd wedi gweithio ar y rhaglenni ac edrychwn ymlaen i allu dathlu Cymru gyda'n gwylwyr."





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.