EFALLAI mai gwlad fach yw Cymru, ond rydym gyda’r gorau pan ddaw hi at arwyr chwaraeon.
Yr wythnos hon, cyhoeddir llyfr plant newydd sy’n adrodd hanesion 20 o athletwyr mwyaf cyffrous y genedl, o’r gorffennol a’r presennol.
Mae Arwyr Chwaraeon Cymru gan James Stafford (Y Lolfa) yn llawn ffeithiau difyr ac ysbrydoledig am sêr Cymreig sydd wedi goresgyn llawer o anawsterau i lwyddo ar lwyfan byd-eang, ac mae eu straeon anhygoel yn sicr o gyffroi darllenwyr ifanc.
Bydd y llyfr yn ceisio addysgu, diddanu ac ysbrydoli plant gyda straeon sêr Olympaidd a Pharalympaidd, sêr tîmau ac arwyr unigol, yn cynnwys enwau cyfarwydd fel Gareth Bale, Jess Fishlock, Alun Wyn Jones, Colin Jackson, Tanni Grey-Thompson, Lauren Price, Geraint Thomas a Jade Jones.
Mae hefyd yn cyflwyno athletwyr hynod ddiddorol nad yw plant heddiw efallai’n eu hadnabod, ond sydd yr un mor nodedig.
Mae’r rhain yn cynnwys y nofwraig Irene Steer, yr unig fenyw Gymreig i ennill medal aur Olympaidd ers 96 mlynedd; Jimmy Wilde, y bocsiwr o ddechrau’r 20fed ganrif sy’n cael ei ystyried fel un o’r goreuon erioed; Wilf Wooller, cricedwr llwyddiannus a chwaraewr rygbi rhyngwladol a gafodd ei gadw’n garcharor gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd; a Billy Boston, a aeth ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus yn chwarae rygbi’r gynghrair.
Wedi’i ysgrifennu mewn tameidiau hawdd ei ddarllen, mae’r llyfr yn cynnwys ffont sy’n gyfeillgar i bobl â dyslecsia.
Mae’n llawn ffeithiau difyr ac yn cynnwys darluniau lliwgar, llawn hwyl gan yr arlunydd Cymreig adnabyddus Telor Gwyn, sydd wedi dod â llawer o lyfrau plant poblogaidd yn fyw, gan gynnwys Genod Gwych a Merched Medrus gan Medi Jones-Jackson a 20 O Bobl Liwgar Cymrus gan Natalie Jones.
Mae’r awdur James Stafford, a aned yng Nghaerdydd ac a fagwyd yn y Bari, yn gyfarwydd iawn â sgwennu am chwaraeon – ef yw sylfaenydd y wefan rygbi boblogaidd The East Terrace.
Yn ogystal ag ysgrifennu am chwaraeon i wefannau, cylchgronau, ac ystod eang o bapurau newydd cenedlaethol a rhanbarthol, mae’n awdur sawl llyfr chwaraeon.
Mae’r rhain yn cynnwys An Illustrated History of Welsh Rugby (Polaris, 2021), golwg unigryw ar 140 mlynedd o hanes tîm cenedlaethol Cymru sydd bellach ar ei drydydd argraffiad, a’r gwerthwr gorau How Wales Beat the Mighty All Blacks (Y Lolfa, 2021), sy’n adrodd hanes taith rygbi gyntaf Seland Newydd i Brydain.
Meddai James: “Rwy’n credu bod chwaraeon yn ffordd wych o ysbrydoli plant a’u denu i ddarllen.
“Yn anffodus yng Nghymru, nid ydym bob amser yn dda am ddathlu ein pobl ein hunain.
“Roeddwn eisiau ysgrifennu’r llyfr hwn er mwyn dangos i blant fod cymaint o bobl o’u cymunedau hwy wedi cyrraedd brig eu campau.
“Dyma’r union y math o lyfr y byddwn i wedi’i garu pan oeddwn i’n ifanc, ac rwy’n gobeithio y bydd yn gwneud plant yn gyffrous dros ddysgu mwy am athletwyr Cymreig o’r gorffennol a’r presennol, ac i gymryd rhan mewn chwaraeon eu hunain.
“Mae angen i’n plant ddarllen a gwneud ymarfer corff cymaint â phosibl.”
Mae Arwyr Chwaraeon Cymru gan James Stafford ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.