DYMA gyflwyno Rhewyn, y corrach bach sydd methu canu! Mae Rhewyn a’r Côrachod (Y Lolfa) yn stori Nadoligaidd wreiddiol newydd gan Catrin Angharad Jones o Fôn gyda darluniadau hyfryd gan Sïan Angharad.

Meddai Catrin: “Rydw i wastad wedi bod eisiau ysgrifennu llyfr Nadoligaidd a phleser o’r mwyaf oedd gweld hon yn mynd i brint.

“Fel sawl tŷ, mae gennym ni ffrindiau bach drygionus sy’n cyrraedd ar Ragfyr y 1af ac yn gwneud pob math o bethau hurt acw yn oriau mân y nos.

“Rhewyn ac Ianto yw enwau’n corachod ni, a dyna’r ysbrydoliaeth.

“Hefyd, mae cyngherddau a charolau yn rhan fawr o’r Nadolig i mi, felly yn naturiol mi blannwyd hedyn stori gerddorol yn fy mhen gan chwarae ar y gair ‘corachod/côrachod’.”

Mae Rhewyn a’r Côrachod yn stori hyfryd ar fydr ac odl sydd â neges bwysig, sef bod gan bawb ei dalent a phawb ei le a’i werth.

“Efallai, fel Rhewyn, nad ydych chi’n ganwr ac efallai mai chi oedd y corrach bach oedd yn cael ei roi yng nghefn y côr i feimio ym mhob cyngerdd Nadolig, ond ta waeth am hynny… mae gan bawb ei ddawn a’i gŵys ei hun i’w dorri.”

Yn debyg i’w llyfr cyntaf, Ysgol Arswyd, mae Catrin wedi creu pecyn at ddefnydd athrawon sy’n llawn gweithgareddau difyr (ar gael o ylolfa.com) ac mae’n bosib gwrando ar gân Rhewyn.

“Rwy’n hoff iawn o’r fformat stori a chân, ac roedd cân Ysgol Arswyd i’w weld yn cydio yn y plant wrth i mi fynd o amgylch ysgolion llynedd – rwy’n gobeithio y byddant yn mwynhau ‘Cân Rhewyn’ hefyd.”

Mewn môr o addasiadau, mae yna groeso i lyfr gwreiddiol Cymreig, meddai Catrin: “Gyda’r Nadolig ar y gorwel, da chi, buddsoddwch mewn llyfrau yn anrhegion i blant y teulu.

“Mae poeni enbyd ar hyn o bryd am safonau darllen plant ac fel un sy’n fythol ddiolchgar i’m rhieni am yr oriau o ddarllen cyn noswylio, allai ond gobeithio mai gwella y bydd pethau, ac y bydd teuluoedd yn mynd yn ôl i’r drefn fendigedig a holl bwysig honno o swatio gyda stori. Nadolig Llawen i chi gyd, gen i a Rhewyn a’r criw!”

Bydd Rhewyn a’r Côrachod yn cael ei lansio’n swyddogol rhwng 2 a 4 o’r gloch ar ddydd Sadwrn, 29ain Tachwedd yn Llyfrgell Caergybi. Croeso mawr i bawb!

Bydd Catrin Angharad yn cynnal sesiwn amser stori yn Palas Print Caernarfon ar ddydd Iau 11eg Rhagfyr am 11yb.