CAFODD digwyddiad yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol (TDdA) ei gynnal yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ddoe.

Daeth y digwyddiad, a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru yn y cyfnod cyn lansio galwad ledled y DU i ymarferwyr TDdA, â sefydliadau diwylliannol, grwpiau cymunedol ac ymarferwyr treftadaeth ynghyd i ddathlu'r traddodiadau byw sydd wedi'u hymgorffori mewn cymunedau ledled Cymru.

Bu’r dathliad undydd yn arddangos tapestri cyfoethog o dreftadaeth fyw, yn amrywio o grefftau a sgiliau traddodiadol i fynegiannau diwylliannol cyfoes.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys ystod amrywiol o weithgareddau trwy gydol y dydd.

Bu crefftwyr traddodiadol, gan gynnwys seiri maen, seiri coed ac eraill yn arddangos sgiliau treftadaeth yn Y Gweithdy. Yn yr Atriwm, bu stondinwyr yn cynnwys y Ganolfan Gyryglau Genedlaethol yn arddangos amrywiaeth o gyryglau traddodiadol Cymru.

Roedd uchafbwyntiau o ran y perfformiadau yn cynnwys cerddoriaeth a dawns o Gymru, adrodd straeon, dawns llew Tsieineaidd, Côr Meibion Rhisga, QWERIN, cerddwyr stilt Danceblast, a Chôr Ptasie Radio Cymru.

Cafodd catgorn eiconig Cymru, sef corn siâp S metelaidd anferth yn seiliedig ar yr hyn a ddefnyddiwyd gan y Celtiaid hynafol wrth iddynt fynd i'r gad, hefyd yn cael ei arddangos ac ar waith.

Ar yr un pryd, roedd cyfres o sgyrsiau yn y ddarlithfa yn archwilio treftadaeth fyw o sawl persbectif:

  • pwysigrwydd treftadaeth fyw mewn cymunedau gwledig yng Nghymru
  • sut mae treftadaeth fyw yn ymddangos mewn cymunedau diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol
  • mynegi treftadaeth fyw drwy'r celfyddydau a sgiliau treftadaeth