MAE enillydd cyntaf Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar wedi ei ddatgelu.
Elen Gwen Williams, 29 oed, sydd wedi ennill y wobr a gafodd ei lansio yn Y Sioe Fawr yn gynharach eleni.
Mae Elen, sy’n wreiddiol o fferm deuluol Fron Felen yn Nyffryn Clwyd, bellach yn byw ar Ynys Môn gyda’i phartner, Owain, a’u dwy ferch fach.
Fel un sydd wedi ei magu ar fferm, mae’r cysylltiad â’r byd amaeth yn parhau ac mae Elen ar hyn o bryd yn gweithio i Gymdeithas Amaethyddol Môn.
Yn ystod ei gyfnod yn cyflwyno’r gyfres Cefn Gwlad ar S4C, ymwelodd Dai â fferm deuluol Elen, ac fe gawson nhw dipyn o hwyl wrth ffilmio.
“O’dd o’n gymeriad. Bydda fo wastad yn rhoid ei amser i bobl,” meddai.
“O’n ni’n cael ymarfer tynnu rhaff efo’r ffermwyr ifanc a gaethon ni rhyw syniad o roi Dai ar y tractor a ni’n tynnu’n erbyn Dai. Ac oeddan ni’n tynnu’n gwybod bo ni ar y camera, a digwydd dallt wedyn bo ni ddim yn symud, methu dallt pam, ond roedd Dai yn rhoi ei droed ar y brêc yr holl amser.”
Y dasg i ymgeiswyr oedd datblygu syniad a fyddai’n gallu gweithio fel eitem i’w darlledu ar blatfformau S4C.
Syniad buddugol Elen oedd prosiect o’r enw “Calon Cefn Gwlad”, eitem a fyddai’n dilyn digwyddiad poblogaidd yn ei chymuned, sef Cneifio Cyflym Hiraethog.
Dywedodd Elen ei bod wedi meddwl am y syniad fel teyrnged, nid yn unig i Dai, a fu farw yn 2022, ond hefyd i’w brawd, Elgan, a fu farw yn 2004.
“Oedd o wrth ei fodd efo amaethyddiaeth a chefn gwlad a chneifio, a phobl yn mwynhau,” meddai.
“O’n i isho dangos pa mor bwysig ydy cymuned a phobl yn dod at ei gilydd a’r ysbrydoliaeth yna. Mae ysgolion lleol yn cau, mae tafarndai’n cau, mae’n bwysig cadw rhywbeth ‘mlaen yn y gymuned.”
Ac yn ôl Elen, mae cyfleoedd fel Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar yn allweddol i bobl ifanc cefn gwlad Cymru.
“Dwi’n meddwl bod o’n bwysig iawn bod pobl ifanc yn cael y cyfleoedd ‘ma,” meddai.
“Gobeithio neith Gwobr Goffa Dai Jones gario ‘mlaen yn y blynyddoedd i ddod. Ond dwi’n falch iawn ac yn ffodus iawn o fod y person cyntaf i ennill y wobr ‘ma ac yn edrych ymlaen i weld rheina sy’n trio yn y dyfodol hefyd.”
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Roedd cymuned yn bwysig iawn i Dai, ac roedd wrth ei fodd yn portreadu cymunedau cefn gwlad a'r cymeriadau sy'n eu cynnal.
“Llongyfarchiadau i Elen ar fod y cyntaf i ennill Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar ac am greu syniad sydd â chymuned wrth ei galon ac sy’n deyrnged deilwng i un o gewri’r byd darlledu yng Nghymru.”
Dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru: “Roedd Dai Llanilar yn un o gyfathrebwyr gorau ein hoes. Roedd ganddo allu eithriadol i gael y gorau o bobl, adeiladu perthynas glos â’i gynulleidfa, ac arddangos y gorau o’n cymuned amaethyddol.
“Bydd y wobr hon yn helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o gyfathrebwyr a darlledwyr talentog, gan sicrhau bod ei waddol yn parhau. Rydym wrth ein boddau mai Elen yw’r enillydd cyntaf ac edrychwn ymlaen at weld ei syniad yn cael ei wireddu.”
Bydd Elen yn derbyn y wobr yn ystod seremoni agoriadol y Ffair Aeaf yn Llanelwedd ar 24 Tachwedd.



-a-Nia-Dooley-(ar-y-dde).png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.