CYHOEDDWYD Bwrsariaeth Cronfa Llŷr yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, yr wythnos ddiwethaf.

Sefydlwyd y fwrsariaeth mewn cydweithrediad gyda theulu’r diweddar Dr Llŷr Roberts a Phrifysgol Bangor i gefnogi myfyrwyr gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.

Bydd y fwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn unrhyw bwnc ac yn noddi taith at bwrpas sy’n gysylltiedig â’u hastudiaethau ac sydd â pherthnasedd i’r Gymraeg neu Astudiaethau Cymreig.

Bwriedir dyfarnu hyd at £2,000 yn flynyddol gyda hyd at bedwar dyfarniad o tua £500 i bob myfyriwr buddugol.

Sefydlwyd y fwrsariaeth i gofio am Dr Llŷr Roberts, un o ddarlithwyr cysylltiol cyntaf a disgleiriaf y Coleg Cymraeg a fu farw’n sydyn ym Mehefin 2023 yn 45 mlwydd oed.

Talwyd teyrned iddo ar y noson gan Dr Dafydd Trystan, Cyfarwyddwr Datblygu Strategol ac Addysg Bellach a Chofrestrydd y Coleg Cymraeg: “Roedd Llŷr yn gyfaill ac yn gydweithiwr annwyl iawn. Fe oedd un o’r Darlithwyr Cysylltiol cyntaf i gael ei benodi i swydd dan nawdd y Coleg Cymraeg.

“Aeth ymlaen i wneud cyfraniad amlweddog i addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym maes Busnes ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn fwyaf diweddar, ym Mhrifysgol Bangor.

“Mewn amser byr gwnaeth Llŷr argraff fawr ar ei gyd-weithwyr a’i fyfyrwyr.

Yn 2022, enillodd wobr gan y Coleg am Adnodd Rhagorol am greu’r e-lyfr cyntaf ym maes Marchnata yn yr iaith Gymraeg.

“Roedd Llŷr yn angerddol am yr iaith Gymraeg, am astudiaethau busnes a marchnata, am gerddoriaeth ac am deithio.

“Mae ei waddol yn glir, ac mae’n briodol ein bod wedi sefydlu’r fwrsariaeth yma i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.”

Fel rhan o’r noson urddwyd tri Chymrawd er Anrhydedd gan y Coleg Cymraeg am gyfraniad oes tuag at addysg ol-orfodol cyfrwng Cymraeg.

· Yr Athro Delyth Prys, cyn-bennaeth yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor;

· Wyn Thomas, a fu’n allweddol yn datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor;

· Linda Wyn, cyn-bennaeth Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Menai o fewn Grŵp Llandrillo Menai.

Gwahoddir ceisiadau am Fwrsariaeth Cronfa Llŷr yn ystod tymor yr haf gyda’r bwriad i gyhoeddi’r enillwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym mis Awst. Bydd rhagor o wybodaeth gan gynnwys y ffurflen gais i ymgeisio am y fwrsariaeth ar wefan y Coleg yn fuan.