MAE’R seren rygbi Scott Quinnell wedi dechrau ar yrfa newydd – nifer ohonyn nhw – wrth iddo ymuno â gweithlu nos Cymru.

Mewn cyfres newydd ar S4C, mae’r cyn-chwaraewr rygbi yn ymuno â rhai gweithwyr nos, sy’n agoriad llygad i gyn-rhif wyth Cymru a’r Llewod.

Bydd Dim Cwsg i Quinnell yn dechrau ar 20 Hydref am 20.25 ar S4C a bydd y gyfres sy’n addas i ddysgwyr ar gael i’w gwylio ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Yn y bennod gyntaf, aiff Scott i Aberhafesb, Powys, lle mae’n cynorthwyo gyda genedigaeth ŵyn bach yn y sied ddefaid, cyn mynd i Gaergybi i drwsio trenau ganol nos.

Yn ddiweddarach yn y gyfres, mae ei ddyletswyddau’n cynnwys gwneud wisgi a gin yn nistyllfa Aberfalls ger Abergwyngregyn, shifft yng nghanolfan Amazon yn Abertawe a gweithio fel porthor nos ym Mhortmeirion.

Dywedodd Scott Quinnell: “Ces i lawer o hwyl yn ffilmio’r gyfres hon, wrth gwrdd â phobl ar draws Cymru sydd yn gweithio’n galed yn y nos er ein mwyn ni gyd.

“O bysgod i’r becws, o wyna i’r wisgi, mae gweithwyr nos yn gwneud cyfraniad mawr i Gymru, ac roedd hi’n bleser dod i adnabod rhai ohonyn nhw a gweld y gwaith maen nhw’n ei wneud.”

Dywedodd Sioned Geraint, Comisiynydd Cynnwys Plant a Dysgwyr S4C: “Pa ffordd well i ddilyn Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg nag wrth ymuno â’r seren rygbi Scott Quinnell wrth iddo daclo nifer o yrfaoedd heriol ac amrywiol?

“Yn y gyfres addysgiadol hon, cawn ddod i adnabod rhai o weithwyr nos Cymru, sy’n gweithio’n galed tra bo gweddill y wlad yn y gwely.”