MAE Gwyneth Jones wedi ei phenodi yn diwtor Dysgu Cymraeg i weithio gyda S4C.

Mae’r penodiad - a gyhoeddiwyd ddydd Mercher, Diwrnod Shwmae Sumae - yn rhan o bartneriaeth arbennig rhwng S4C a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r Ganolfan yn barod yn cynghori S4C ar greu cynnwys sy’n addas ar gyfer pobl sy’n dysgu’r Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo rhaglenni Cymraeg i’w 18,000 a mwy o ddysgwyr.

Un o ddarparwyr cyrsiau'r Ganolfan, Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn, fydd yn cefnogi Gwyneth yn y rôl.

Bydd Gwyneth yn gweithio’n unswydd gydag aelodau o staff S4C, cwmnïoedd cynhyrchu a chyfranwyr rhaglenni.

Dywedodd Gwyneth Jones: “Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau’r rôl gyffrous newydd hon i gefnogi cyflwynwyr, cyfranwyr a gweithwyr y tu ôl i’r camera - ar set, ar leoliad, ac mewn swyddfeydd.

“Bydda i’n gallu cefnogi dysgwyr a siaradwyr di-hyder gyda hyfforddiant ymarferol, gan gynnwys gwersi rheolaidd a sesiynau un-i-un, gan ddilyn cyrsiau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg, sy’n rhoi un llwybr clir i ddod yn siaradwr Cymraeg.

“Mae S4C yn hollbwysig i’r Gymraeg ac yn croesawu dysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd, a bydd yn fraint i gefnogi gweithgareddau’r sianel yn y ffordd yma.”

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn arbenigo mewn dysgu a chaffael iaith, ac yn cynnig cyfleoedd dysgu mewn cymunedau a gweithleoedd, gan gynnwys sectorau amrywiol a sefydliadau penodol fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru.

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “’Dyn ni’n falch iawn o’r cydweithio agos ag S4C, a’r cyfle yma i gynnig cefnogaeth ychwanegol i gryfhau a chynyddu defnydd o’r Gymraeg yn myd y cyfryngau.

“Bydd Gwyneth yn gallu teilwra’r gefnogaeth i ateb gofynion penodol S4C a’r sector cynhyrchu – mae’r dull yma o weithio yn un effeithiol, a ’dyn ni’n edrych ymlaen at weld y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n hyderus ac yn naturiol gan fwy o bobl ar draws y diwydiant.”

Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Mae’n diolch yn fawr i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg am gynnig y gwasanaeth arbennig hwn i ni yn S4C.

“Mae cefnogi’r amcan o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith, yn elfennau allweddol o strategaeth newydd S4C, Mwy na Sianel Deledu, ac mae’r ddarpariaeth yma yn gam arall hynod o werthfawr er mwyn helpu ni i gyflawni hynny.

“Dw i’n siŵr y bydd penodiad Gwyneth yn gaffaeliad i S4C a’r sector darlledu ehangach, gan gynnig cefnogaeth werthfawr i staff a chyfranwyr rhaglenni.”