BYDD artist a chynhyrchydd diwylliannol o’r Almaen, Katharina Becklas, yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf i gynnal gweithdai yn Nyffryn Conwy ddiwedd mis Hydref i helpu trigolion i archwilio eu perthynas â dŵr croyw.
Bydd hi’n gweithio gyda Gofod Glas, prosiect cydweithredol yn Nyffryn Conwy, sy’n dod â phobl at ei gilydd i edrych ar ffyrdd newydd a chynaliadwy o fyw ochr yn ochr â dŵr croyw.
Un o’u prosiectau diweddaraf yw profi ansawdd dŵr croyw yn yr ardal i weld pa mor iach ydy o.
Maent yn gofyn i drigolion lleol anfon samplau atynt o nentydd, afonydd, corsydd, pyllau neu lynnoedd lleol, a fydd wedyn yn cael eu profi am elfennau megis metelau, ffosffad, nitrad a lefel pH.
Bydd Katharina yn cynnal gweithdai fel rhan o’r prosiect hwn, i annog pobl i gymryd rhan, gan archwilio a chreu creaduriaid wedi’u hysbrydoli gan ddŵr croyw.
Dywedodd Katharina: “Dyma fydd fy ymweliad cyntaf â Chymru a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddod draw.
“Cefais fy magu yng nghefn gwlad a dw i wastad wedi teimlo cysylltiad dwfn â natur — dŵr, yn enwedig, yw fy elfen.
“Rwy’n caru nofio mewn llynnoedd ac afonydd ac arnofio mewn distawrwydd, pan fydd y byd uwchben yn diflannu.
“O ganlyniad, daliodd y prosiect sy’n cysylltu celf, dŵr, a gwleidyddiaeth dŵr croyw fy sylw ar unwaith. Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr elfennau ecolegol a gwleidyddol o’r pwnc.”
Mae Gofod Glas yn brosiect cydweithredol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Dyffryn Dyfodol.
Mae cyfnod Katharina yng Nghymru wedi’i ariannu gan Cultural Bridge, rhaglen sy’n cefnogi sefydliadau celfyddydol a diwylliannol ledled y DU a’r Almaen i ddatblygu partneriaethau sy’n archwilio arferion celfyddydau cymdeithasol.
Dywedodd Iwan Williams, Cynhyrchydd Creadigol Dyffryn Dyfodol: “Da ni mor gyffrous i groesawu Katharina i Gymru.
“Da ni wedi gweld y gwaith anhygoel y mae hi wedi’i wneud yn yr Almaen, gan gynnwys perfformiad diweddar yn archwilio sut mae’r corff benywaidd yn heneiddio drwy symudiadau aml-genhedlaeth yn y dŵr.
“Mae ei syniadau ar gyfer y gweithdai yn Nyffryn Conwy yn gyffrous ac yn ein ysbrydoli, a da ni’n teimlo’n freintiedig iawn o gael ychydig o’i hamser tra bydd hi yma.”
Bydd Katharina yn cynnal gweithdai am ddim ym Mhenmachno ar 19 Hydref, rhwng 2pm – 5pm, ac yn Nolgarrog ar 25 Hydref.
Mae mwy o wybodaeth ar wefan Gofod Glas - https://www.gofodglas.org/digwyddiadau-events
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.