BYDD ffilmiau Cymreig yn cael eu dathlu yng Ngŵyl Gwobr Iris eto eleni, wrth i’r bartneriaeth rhwng yr ŵyl ffilm LHDTC+ a S4C barhau i fynd o nerth i nerth.

Fel rhan o’r arlwy, bydd sgwrs am Yr Alwad, drama fertigol gyntaf S4C a gafodd ei darlledu yn ddiweddar ar TikTok.

Bydd Y Tolldy, comedi arswyd a gomisiynwyd gan S4C, yn cael ei ddangosiad cyntaf fel rhan o noson agoriadol yr ŵyl.

Mae Dysgu Hedfan, ffilm fer a gafodd ei chomisiynu gan S4C fel rhan o’i phartneriaeth gydag It’s My Shout, wedi cyrraedd rhestr fer gwobr gymunedol Iris.

Ar ddydd Sul, 19 Hydref, bydd enillwyr Gwobr Iris yn cael eu cyhoeddi yn Sgwâr Canolog, Caerdydd, sy'n gartref i swyddfeydd BBC Cymru a S4C.

Mae Gŵyl Ffilmiau LHDTC+ Gwobr Iris bellach yn ei 19eg blwyddyn o ddathlu straeon LHDTC+ rhyngwladol.

Mae’n digwydd wyneb-yn-wyneb yng Nghaerdydd ac ar-lein ar draws y Deyrnas Gyfunol.

Aeth y ffilm fer Teth, a gafodd ei chynhyrchu gan Beastly Media ar gyfer S4C, ar daith yn dilyn ei dangosiad cyntaf yng Ngŵyl Iris y llynedd fel rhan o gynllun Iris ar Grwydr, gan gael ei dewis ar gyfer gŵyl BFI Flare eleni.

Teth, hefyd, yw’r ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei dangos yn India a Tsieina ac enillydd Ffilm LHDT Orau Cali Film Fest yng Nghaliffornia, UDA, ac mae'n parhau i greu sŵn ledled y byd.

Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Mae cefnogaeth S4C i Ŵyl Iris unwaith eto eleni yn dangos ein hymrwymiad parhaus i gefnogi ffilmiau Cymreig ac i sicrhau bod S4C yn wirioneddol i bawb.

“Mae llwyddiant rhai o’r ffilmiau hyn yn destament i effaith ehangach S4C ac yn profi beth sy’n bosib pan rydym yn cydweithio gyda’n partneriaid i weld Cymru’n ffynnu.

“Rydym yn falch iawn yn S4C o’r bartneriaeth rhyngom ni a Gŵyl Iris ac edrychaf ymlaen yn fawr at wylio mwy o straeon LHDTC+ ar ffurf ffilm, gan rai o grëwyr cynnwys mwyaf talentog Cymru.”

Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris: “Mae gan Iris berthynas gref gyda S4C ers y dechrau. Daeth ein gŵyl gyntaf yn 2007 i ben gyda dangosiad cyntaf Fel Arall gan Nia Dryhurst.

“Mae’r berthynas wedi esblygu a thyfu ac eleni mae gennym raglen sy’n adlewyrchu pa mor weithgar mae S4C wrth hyrwyddo amrywiaeth ar bob lefel.”