MAE camerâu wedi cael mynediad prin i wasanaeth digartrefedd Cyngor Gwynedd ar gyfer cyfres ddogfen newydd ar S4C sy’n archwilio’r pwysau cynyddol ar wasanaethau tai yng Nghymru.

Mae pob pennod yn y gyfres yn dilyn staff y gwasanaeth a’r rhai sy’n chwilio am help, gan gynnig golwg ar realiti digartrefedd a’r heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n gweithio i’w atal.

Wedi’i ffilmio dros gyfnod o chwe mis, mae’r gyfres yn dilyn swyddogion gwasanaeth digartrefedd Cyngor Gwynedd wrth iddynt ymateb i alwadau am gymorth, trefnu llety dros dro a chefnogi pobl sy’n wynebu digartrefedd.

Mae’r bennod gyntaf yn dilyn David, 62, sydd wedi treulio dros bedwar mis mewn llety dros dro ar ôl tor-perthynas.

Er bod ganddo fflat, mae’n cael ei ystyried yn ddigartref oherwydd nad oes ganddo denantiaeth parhaol.

Ac yntau wedi dioddef strôc, mae David yn siarad am yr effaith y mae’r ansicrwydd wedi’i gael ar ei les corfforol a meddyliol.

Un arall sy’n ymddangos yn y bennod gyntaf yw Mr Miller, 77, sydd wedi bod yn byw mewn carafán ers 2012. Wrth i bryderon am ei iechyd gynyddu, mae’r tîm yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau lleol i'w helpu i ddod o hyd i gartref parhaol.

Yn darlledu ar gyfnod pan mae digartrefedd yn hawlio’r penawdau yn genedlaethol gyda’r Prif Weinidog Andy Burnham wedi cyhoeddi ei fwriad i ddod a digartrefedd i ben, mae’r gyfres hefyd yn edrych ar y prinder eiddo sydd ar gael i’r gwasanaeth letya’r unigolion sy’n mynd drwy gyfnod anodd.

Pan ddaeth Andy Burnham yn Brif Weinidog ym mis Gorffennaf 2026, gwnaeth ddileu cysgu allan yn y tymor hir yn un o’i addewidion cyntaf, gan gyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer llety a gwasanaethau cymorth. Dywedodd y byddai’r llywodraeth yn gweithio i helpu pobl oddi ar y strydoedd “cyn gynted â phosibl”

Ar ben yr argyfwng tai, mae’r gyfres hefyd yn edrych ar y pwysau ariannol sy’n wynebu awdurdodau lleol. Mae Cyngor Gwynedd yn gwario o gwmpas £6 miliwn y flwyddyn ar lety brys, gyda chost cyfartalog y noson am lety oddeutu £81.

Mae’r rhaglen hefyd yn tynnu sylw at effaith digartrefedd ar deuluoedd, wrth i’r bennod gyntaf ddilyn y tîm yn prynu anrhegion Nadolig i 72 o blant sy’n byw mewn llety dros dro ledled Gwynedd.

Mae Colleen Pritchard, Rheolwr Gwasanaeth Digartrefedd Cyngor Gwynedd, yn dweud er gwaethaf yr heriau, mae hi a’i thîm yn credu bod y gwasanaeth yn medru gwneud gwahaniaeth: “Dydi o ddim yn faes hawdd i weithio ynddo fo.

“Ond mi ydyn ni’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl. Fyswn i’n mynd mor bell a dweud ein bod ni’n newid bywydau pobl a safio bywydau pobl.”

Cychwynodd Am Le i Fyw yn cychwyn am 9.00pm nos Fawrth, 8 Medi ac mae ar gael ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer. Mae’r gyfres wedi’i gynhyrchu gan Darlun.