MAE merch ifanc o ardal Llandysul wedi troi ei chariad at ddarllen yn brosiect arbennig er budd ei chymuned ysgol.
Mae Isabella, sy’n ddisgybl yn Ysgol T Llew Jones, wedi creu llyfrgell fach er mwyn rhoi cyfle i blant ddarganfod llyfrau newydd, benthyg cyfrolau a rhannu eu hoff straeon gydag eraill.
Cafodd ei hysbrydoli ar ôl gweld llyfrgell debyg y tu allan i gartref rhai o’i ffrindiau yn y Barri. Gan ei bod wastad wedi mwynhau darllen a rhoi llyfrau’n anrhegion i ffrindiau, penderfynodd greu rhywbeth a fyddai’n annog mwy o blant i ddatblygu’r un diddordeb.
Dros wyliau’r haf, aeth Isabella ati i adeiladu’r cwpwrdd pren o’r dechrau gyda chymorth ei thaid. Ar ôl wythnosau o waith caled, mae’r llyfrgell fach bellach wedi’i chwblhau ac yn barod i wasanaethu’r ysgol.
Dywedodd ei mam, El Armstrong, fod y teulu’n hynod falch ohoni am droi rhywbeth mae’n ei garu yn brosiect a all fod o fudd i gymuned yr ysgol gyfan.
“Mae annog plant i ddarllen yn bwysicach nag erioed, ac roedd Isabella eisiau rhoi cyfle i blant rannu llyfrau a darganfod rhai newydd,” meddai.
Y gobaith yw y bydd y fenter yn meithrin cariad at ddarllen ymhlith disgyblion ac efallai hyd yn oed yn ysbrydoli plant eraill i ddechrau prosiectau tebyg yn eu cymunedau eu hunain.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.