ER bod ail nofel Simon Chandler wedi’i gosod rhwng y ddau Ryfel Byd, mae rhai o’i themâu yn gyfoes iawn: hiliaeth, erledigaeth, casineb a chariad.

Mae Hiraeth Neifion yn dilyn dyn ifanc o Flaenau Ffestiniog, Ifan Williams, wrth iddo ddianc o ddyfodol diflas a pheryglus yn Chwarel Llechwedd i fod yn bianydd jazz proffesiynol.

Ar ôl iddo gyfarfod yr Almaenwr Willi Grünbaum, neu ‘Neifion’ fel mae’n cael ei alw, yn 1928 caiff ei dynnu i sin jazz gyffrous a blaengar Berlin fel aelod o fand aml-hil yr Asphalt Hustlers.

Yn wahanol i’r Unol Daleithiau, mae modd i gerddorion Du a gwyn chwarae efo’i gilydd ar lwyfan yn Berlin, ond mae hyn yn dân ar groen y Natsïaid, sy’n gobeithio cipio grym yn yr Almaen.

Wrth i Ifan ddatblygu’i grefft mae’r Natsïaid hefyd yn ennill tir, ac erbyn dechrau’r 1930au mae dyfodol aelodau’r band a’u cyfeillion – sy’n cynnwys Almaenwyr (gan gynnwys un o dras Iddewig), Americanwyr Du a gwyn, Rwsiad, Albanwr ac, wrth gwrs, Cymro – yn ansicr.

Mae dinas Berlin wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r awdur ers blynyddoedd, ond drwy ddarllen llyfr y daeth y syniad iddo am blethu jazz i’w nofel.

“Llyfr o’r enw Faust’s Metropolis: a History of Berlin gan Alexandra Richie daniodd fy nychymyg,” medd Simon.

“Roedd un frawddeg benodol ynddo am ‘smoky jazz clubs’ Berlin yn y 1920au.

“Cefais fy ngwefreiddio gan y ddelwedd honno, oherwydd nad oeddwn i erioed wedi ystyried bod cysylltiad rhwng Berlin a jazz bryd hynny.

“Yn syth, roedd hi’n glir mai cerddor jazz fyddai’r hogyn o Fro Ffestiniog.

“Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am jazz ar y pryd, felly dechreuais addysgu fy hun... a disgyn mewn cariad gyda’r gerddoriaeth!”

Un o’r pethau wnaeth argraff gref arno wrth wneud ei waith ymchwil oedd y ffilm ddogfen Ken Burns’ Jazz.

“Dysgais ddau beth sylfaenol drwy wylio’r ffilm ddogfen hon,” meddai, “yn gyntaf, roedd hiliaeth yn rhan annatod o hanes jazz, ac yn ail, cerddorion Du oedd wedi’i greu, yn y bôn, er iddyn nhw fenthyg ambell elfen ‘wen’ megis cerddoriaeth glasurol Ewropeaidd a’u taflu i’r tawddlestr.

“Fyddai nofel hanesyddol am jazz heb gymeriadau Du na hiliaeth ddim yn bosib – dyna pam fod Willi Grünbaum yn y nofel wedi dod â cherddorion Du a gwyn o’r Unol Daleithiau i Berlin er mwyn iddyn nhw allu chwarae efo’i gilydd.”

Mae tebygrwydd trawiadol rhwng y Natsïaid yn y 1930au cynnar a Rwsia o dan Putin yn 2025, ac mae Putin yn mygu creadigrwydd, hunanfynegiant a rhyddid diwylliannol i’r un graddau â Hitler, er gyda dulliau gwahanol.

Ond, hyd yn oed pe na bai Rwsia’n achosi Trydydd Rhyfel Byd, mae esgyniad awdurdodyddiaeth a cheidwadaeth i’w weld ym mhobman heddiw: hyd yn oed yn yr Unol Daleithiau o dan Trump yn ei ail dymor yn Arlywydd ac, yn wir, ym Mhrydain hefyd gydag esgyniad plaid Reform ac ymateb y brid cyfredol o Dorïaid asgell dde sy’n mynd gyda’r llif ymhellach i’r dde.

Mae’r awdur wedi curadu trac sain arbennig i gyd-fynd â’r nofel ar blatfform Spotify: (Trac Sain Hiraeth Neifion - playlist by Simon Chandler | Spotify) .

Mae’n cynnwys caneuon sy’n berthnasol i fywyd a magwraeth Ifan, y prif gymeriad, ym Mlaenau Ffestiniog, yn ogystal â chaneuon jazz y 1920au sy’n ymddangos yn y nofel.

Mae Simon Chandler yn hanu o Lundain, ond syrthiodd mewn cariad â Chymru, y Gymraeg a'r gynghanedd ar ôl iddo ymweld â cheudyllau Llechwedd ger Blaenau Ffestiniog.

Bellach, mae'n golofnydd yng nghylchgrawn Barddas ac mae ganddo englynion mewn dwy flodeugerdd ddwyieithog.

Mae’n gyfreithiwr yn ei waith bob dydd, ac mae wedi llunio cynllun cyfreithiol, Diogelwn, ar gyfer Cymdeithas yr Iaith i warchod enwau Cymraeg ar dai a thir.

Yn ogystal, mae wedi rhyddhau dau albwm o ganeuon Cymraeg, ac mae'n rhedeg Grŵp Sgwrs a Pheint Manceinion yn ei ddinas fabwysiedig. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Llygad Dieithryn, yn 2023.

Mae Hiraeth Neifion yn cael ei lansio yn Siop Lyfrau’r Hen Bost, Blaenau Ffestiniog, nos Fawrth, 24 Mehefin am 7.00yh. Mae croeso i bawb, a mynediad am ddim. Bydd copïau o’r nofel yn cael eu gwerthu ar y noson.

Mae Hiraeth Neifion ar gael yn awr ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com.