MAE adroddiad newydd a gyhoeddir heddiw (Llun, 25 Mai) gan Gomisiynydd y Gymraeg yn rhoi darlun o’r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr ar draws Cymru. Casglwyd ymatebion gan dros 1,500 o fyfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch, ac mae’r canfyddiadau’n dangos darlun cymysg o brofiadau ar draws y sector.
Bwriad yr ymchwil oedd ystyried y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg i fyfyrwyr mewn pedwar maes penodol, sef:
- gallu myfyrwyr i gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg
- dewis o lety gyda siaradwyr Cymraeg
- cynnig a dyrannu tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg
- mynediad at wasanaethau llesiant drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ychwanegol at hynny, edrychwyd ar y defnydd ehangach o’r Gymraeg gan sefydliadau addysgol, gan gynnwys diwylliant ieithyddol y campws, a sut mae gwasanaethau Cymraeg yn cael eu hyrwyddo i fyfyrwyr.
Gan fod profiadau plant a phobl ifanc wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn thema benodol yng Nghynllun Strategol Comisiynydd y Gymraeg, mae’r gwaith ymchwil hwn yn gyfraniad pwysig at ddeall sut mae gwasanaethau Cymraeg yn cael eu darparu ac yn gweithredu’n ymarferol i fyfyrwyr.
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn: “Wrth i ni ystyried pwysigrwydd cynnal a datblygu defnydd parhaus o'r iaith Gymraeg, rhaid cydnabod pa mor allweddol yw rôl colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch wrth sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol fel rhan o’u bywydau academaidd a chymdeithasol.
“Yr hyn mae’r gwaith ymchwil hwn yn ei gynnig i ni yw gwell dealltwriaeth o brofiad uniongyrchol myfyrwyr o’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael iddynt, gan ganolbwyntio ar feysydd lle mae dyletswyddau penodol wedi’u gosod drwy safonau’r Gymraeg, ond hefyd ar y diwylliant ehangach sy’n dylanwadu ar ddefnydd o’r iaith o ddydd i ddydd.
“Er ei bod yn galonogol gweld enghreifftiau cryf o arferion da, nid yw’r profiad hwnnw’n gyson ar draws y sector. O ganlyniad, rydym wedi nodi camau gwella clir, a byddwn yn gofyn i’r sefydliadau perthnasol fynd i’r afael â nhw. Rwy’n edrych ymlaen at drafodaethau adeiladol a chadarnhaol dros y misoedd nesaf.”
Rhannwyd holiaduron gyda myfyrwyr sy’n astudio mewn coleg neu brifysgol yng Nghymru, a chynhaliwyd sesiynau trafod gyda grwpiau llai er mwyn cael darlun cyflawn o'r gwasanaethau a gynigir. O ganlyniad i’r gwaith hwn, mae pum cam gwella penodol wedi eu hadnabod sef:
- Safoni trefniadau asesu yn Gymraeg
- Cynnig y Gymraeg yn rhagweithiol, nid dim ond fel opsiwn
- Cau’r bylchau sgiliau Cymraeg yn y gweithlu
- Cryfhau’r profiad Cymraeg sy’n meithrin ymdeimlad o berthyn
- Sicrhau cysondeb drwy hunanasesu a monitro cadarn
Ychwanegodd James Owen, Prif Weithredwr Medr, sydd yn gyfrifol am gyllido a rheoleiddio addysg drydyddol yng Nghymru: “Mae’r ymchwil hwn yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar brofiad dysgwyr Cymraeg eu hiaith mewn addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru. Mae’r canfyddiadau’n dangos darlun amrywiol, ac yn tanlinellu’r angen i wneud mwy i gefnogi’r sector addysg drydyddol, ei staff, a’i ddysgwyr i symud ymhellach ar y continwwm sgiliau Cymraeg dros amser. I Medr, mae profiad cadarnhaol a chyfoethog i ddysgwyr Cymraeg yn allweddol i alluogi’r Gymraeg i ffynnu, o fewn y sector addysg drydyddol ac ar draws Cymru ehangach.
“Bydd Amod y Gymraeg newydd Medr yn rhoi ffocws cliriach ar rôl darparwyr wrth hybu a hyrwyddo’r Gymraeg, ac ar feithrin amgylchedd lle gall staff a dysgwyr ddefnyddio’r iaith yn naturiol. Bydd angen i golegau a phrifysgolion ddangos sut maen nhw’n mynd i hyrwyddo gwerth y Gymraeg, y manteision mae’r iaith yn eu cynnig, a sut y byddan nhw’n creu cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.”
Yn ôl Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r ymchwil hwn yn amserol: “Mae profiadau dysgwyr o’r Gymraeg yn ystod eu cyfnod mewn coleg neu brifysgol yn dylanwadu’n sylweddol ar eu gallu a’u parodrwydd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle wedyn. Er bod cynnydd wedi bod mewn darpariaeth Gymraeg o ganlyniad i waith y Coleg, mae’r ymchwil hwn yn amlygu unwaith yn rhagor bod angen i’r profiad Cymraeg ymestyn ymhell tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
“Mae’r camau gwella yn rhoi llwybr clir i golegau a phrifysgolion weithio gyda sefydliadau fel Medr, Comisiynydd y Gymraeg a’r Coleg i wella’r gwasanaeth i ddysgwyr. Yn sgil newidiadau diweddar i’r tirwedd addysg drydyddol, mae hyn yn fwy o reidrwydd nag erioed.”
Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi’n swyddogol ar stondin Comisiynydd y Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Môn ar fore lun, 25 Mai am 11 o'r gloch.

.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.