YR wythnos hon cyhoeddir cyfrol sy’n dathlu’r diweddar Gareth Miles – awdur, dramodydd, ymgyrchydd, Comiwnydd, dinesydd byd a Chymro i’r carn. Mae O’r Gwylltio, Gweithredu (Y Lolfa) wedi’i olygu gan Hywel Griffiths, Siân Howys ac Angharad Tomos.

Anodd ydi darllen gwaith Gareth Miles heb ymateb iddo – naill ai drwy anghytuno yn chwyrn, neu gael eich tanio. Nod ei waith oedd herio darllenwyr; siglo’r sylfeini er mwyn peri inni feddwl. Crisialir hanfod ei waith fel dramodydd gan Aled Jones Williams, mai ‘Theatr er mwyn gwylltio oedd nod Gareth. Ac o’r gwylltio, gweithredu.’

Yn eu rhagair, meddai’r golygyddion: “Ein bwriad yn y gyfrol hon yw rhoi gofod i deulu, ffrindiau, cydweithwyr, cyd-ymgyrchwyr, cyd-sgwenwyr, cyd-ddychmygwyr a chyd-freuddwydwyr i rannu atgofion am Gareth, ac am ei waith a’i ddiddordebau, a rhoi’r teyrngedau hynny ar gof a chadw a’u rhannu.”

Yn O’r Gwylltio, Gweithredu ceir ysgrifau coffa personol, ysgrifau ar ei waith – sy’n dadansoddi ei gyfraniad i lenyddiaeth a gwleidyddiaeth Cymru – yn ogystal â cherddi coffa ac ambell ddarn gan Gareth ei hun, gan gynnwys dwy araith o’i eiddo nas cyhoeddwyd o’r blaen.

Drwy’r cyfan, mae yna ‘linyn arian’ o berson egwyddorol ac ymroddedig, ‘miniog ei ymennydd’ ond caredig a hael a ddylanwadodd ar fywyd llenyddol, celfyddydol a gwleidyddol ei fyd trwy gylchoedd amrywiol ledled Cymru.

Meddai’r golygyddion: “Gŵr â’i olygon ar y dyfodol oedd o, bob tro, a dyna pam yr ydym yn cyflwyno’r gyfrol i’r genhedlaeth nesaf.”

Meddai Hywel Griffiths, un o’r golygyddion: “Mae'r broses o gasglu cyfraniadau gan deulu, ffrindiau a chyd-ymgyrchwyr Gareth wedi bod yn fraint bleserus iawn.

“Dwi wedi dysgu llawer iawn am fywyd a gwaith Gareth, gan gynnwys trwy’r darnau gan Gareth ei hun.

“Mae'n braf bod y gyfrol yn ymddangos o gwmpas yr un pryd â llwyfannu ei ddrama 'Llanast' gan Theatr Bara Caws. Gobeithio y bydd y gyfrol yn sbardun i fwy o bobl fwynhau ei waith.”

Gareth Miles oedd un o brif sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith ac un o benseiri ei pholisi di-drais.

Heriodd system Apartheid De Affrica o oed cynnar iawn gan roi persbectif byd-eang i wleidyddiaeth Cymru.

Yn wladgarwr, ond yn Gomiwnydd, yn anffyddiwr ond efo cyfraniad diwinyddol pwysig, roedd Gareth wastad yn torri ei gŵys ei hun.

Ysbrydolodd ei nofelau a’i ddramâu nifer o awduron ifanc, a bu’n hael ei gefnogaeth iddynt.

Uwchlaw popeth, roedd yn gwmni difyr, yn dad, gŵr a brawd annwyl iawn. Dyma gyfrol sydd yn portreadu gwahanol agweddau o’r Cymro tanbaid hwn.

Bydd O’r Gwylltio, Gweithredu – Dathlu Gareth Miles yn cael ei lansio’n swyddogol am 7:30yh nos Fercher 3 Rhagfyr yng Nghlwb y Bont, Pontypridd yng nghwmni Catrin Ashton, Anthony Evans, Hywel Griffiths, Aneirin Karadog a Ceri Williams. Hefyd, am 6yh nos Lun 8fed o Ragfyr yn Palas Print, Caernarfon yng nghwmni Aled Jones Williams, Angharad Tomos a Cedron Sion.

Mae O’r Gwylltio, Gweithredu – Dathlu Gareth Miles a olygwyd gan Hywel Griffiths, Siân Howys ac Angharad Tomos ar gael nawr (£12.99, Y Lolfa).