YR wythnos hon cyhoeddir ail nofel yr hanesydd Bob Morris. Mae Blwyddyn o Siwrnai (Y Lolfa) wedi’i osod 40 mlynedd yn ôl, yn nofel ddirgelwch hanesyddol.

Dywed Bob Morris ei fod wedi seilio’i nofel yng Nghymru’r wythdegau oherwydd ei brofiad o weithio yng Nghaerdydd a dros Gymru gyfan yn ystod y cyfnod yma: “Roeddwn yn gweithio efo Cadw yn ystod 1986-88 a chael cyfle i deithio Cymru gyfan yn fy ngwaith, gan ymweld â llu o’n hadeiladau hanesyddol ni a dod i adnabod pobl ddiddorol.

“Cefais gyfle i weld mor fregus oedd economi Cymru yn y cyfnod hwn, gyda diweithdra’n uchel, ond nifer o gwmnïau masnachol mawr yn ne Lloegr yn ffynnu, yn enwedig yn y sector ariannol. Roedd dinas Caerdydd ei hunan yn elwa rhywfaint o hynny.”

Mae Blwyddyn o Siwrnai yn dilyn Rhys Gruffydd a’r hyn sy’n digwydd wedi iddo dderbyn swydd gyda chwmni newydd, uchelgeisiol, ‘Cwmpas Cymru’, sydd a’i fryd ar adfywio economi Cymru adeg dirwasgiad yr 1980au. Cyfnod y stori ydi 1986-87, pan aiff gwaith Rhys gyda Chwmpas Cymru ag e i’r pencadlys yng Nghaerdydd ac i sawl man ledled Cymru.

Gwaith Rhys yw trefnu achlysuron i ysgolion ac i’r cyhoedd dros Gymru, gyda thîm bywiog o berfformwyr. Ond buan y daw’n amlwg bod gelynion dienw am danseilio’r cynllun a difetha’r gwaith; ac mae’r trafferthion yn bygwth diogelwch y cyhoedd a Rhys a’i dîm.

Meddai Bob Morris: “Er mai yng Nghaerdydd mae cnewyllyn y stori wedi ei osod, rydw i wedi ceisio mynd a Rhys Gruffydd a’i griw i nifer o leoliadau diddorol ledled Cymru. Mae’r rhan fwyaf yn lleoliadau y cefais innau dreulio peth amser ar waith ynddyn nhw, megis cestyll Caernarfon a Chaerffili, Llys Tre-tŵr a chadeirlannau Tyddewi a Llanelwy.”

Mae Blwyddyn o Siwrnai gan Bob Morris ar gael nawr (£11.99, Y Lolfa).