O GWMPAS y byd mae pobl, cymunedau a chenhedloedd sydd wedi eu gwahanu gan waliau a ffiniau; rhai’n hanesyddol, rhai’n anweledig, ac eraill i’w gweld yn glir. Wrth i gyfres Y Wal ddychwelyd i S4C, Lisa Jên Brown sy’n teithio’r byd er mwyn archwilio rhai o’r ffiniau hyn, a chlywed gan y bobl sy’n byw yn eu cysgod.
Mae’r gyfres yn dechrau ar S4C am 21.00 ar 7 Ebrill ac ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer gydag is-deitlau Cymraeg a Saesneg.
“Allai dim byd fod wedi fy mharatoi ar gyfer ffilmio’r gyfres yma,” meddai’r actores, y gantores a’r gyflwynwraig o Fethesda, Lisa Jên Brown. “Mae yna straeon dirdynnol, straeon pobl sy’n mynd trwy rywbeth mawr, a dim ots faint oeddwn i wedi’i ddarllen a pharatoi o flaen llaw, roedd rhaid trio deall a dygymod lot fawr yn y foment, ac ar gamera.”
Wedi'i ffilmio ar draws pedwar cyfandir, mae cyfres newydd Y Wal yn mynd â gwylwyr at y ffin rhwng y Ffindir a Rwsia, i São Paulo ym Mrasil, at y llinell hanesyddol sy’n rhannu Fietnam a’r ffin rhwng Sbaen a Moroco. Ym mhob lleoliad mae Lisa’n archwilio sut mae muriau a ffiniau'n llunio bywydau cymunedau sy'n byw ar y naill ochr a'r llall, ac yn mynd ar drywydd straeon y trigolion lleol.
“Mae ’na brofiadau a straeon fydd yn aros efo fi am byth,” meddai Lisa, a enillodd wobr y Cyflwynydd Gorau yng ngwobrau’r BAFTA Cymru yn 2023 am ei rhaglen yng nghyfres Stori’r Iaith ar S4C. “Ym Mrasil mi rannodd un dyn stori efo ni yn y ffafelas… Claudio. Cerddor ydy o. Roedd o a’i ffrindiau’n dreifio adra o gig a’r car yn llawn o offerynnau ac offer pan gafodd o ei stopio gan un o’r gangs.
“Dyma un o’r dynion yn dal gwn at ei ben o, gwn poeth felly roedd o’n amlwg newydd saethu rhywun… Dyma fo’n dweud bod rhaid i Claudio ddangos ei fod yn gallu chwarae’r gitâr, i brofi eu bod nhw ddim wedi dwyn y stwff - neu mi fydden nhw’n lladd pawb oedd yn y car. Caeodd Claudio ei lygaid a chwarae hen gân, cân am Brasil, gan feddwl mai hon oedd y gân olaf fyddai yn ei chanu erioed. Ac ar ôl agor ei lygaid eto gwelodd bod y dyn oedd yn dal y gwn yn crïo, wedi ei lorio gan y gerddoriaeth, a’r gwn wedi dod lawr. Felly mae yna straeon gobeithiol hefyd. Straeon am bŵer cariad, a gobaith a chreadigrwydd.”
Yn rhaglen gynta’r gyfres, wedi cael caniatâd arbennig i ffilmio yno, mae Lisa’n ymweld â’r ffin rhwng Y Ffindir a Rwsia sydd ar gau ers 2023 yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin. Dilynwn Lisa wrth iddi gwrdd â chriw sy’n ymarfer saethu’n barod at ryfel, a chael croeso mewn cartref lleol ble mae hanner teulu o Rwsia yn byw; yr hanner arall dal dros y ffin.
O weld dau gyn-filwr a chyn-elynion yn cymodi yn Fietnam, i glywed gan fudwyr yn Ceuta sydd ar fin mentro popeth yn y gobaith o gael bywyd gwell, mae’r gyfres yn gyforiog o straeon ysgubol sy’n darlunio’r personol a’r gwleidyddol.
“Dwi’n teimlo mod i wedi gweld y gorau a’r gwaethaf o ddynoliaeth,” meddai Lisa, sydd bellach nôl adref yng ngogledd Cymru. “Mi wnes i ddigalonni ar adegau ond dwi hefyd wedi gweld bod ’na gymaint o bobol dda allan yna. Yng ngwraidd pethau, mae pobol yn dda.”
Mae’r cynhyrchiad yn bartneriaeth rhwng tair gwlad a thri darlledwr; S4C yng Nghymru, TG4 yn Iwerddon ac MG ALBA yn yr Alban, gyda chefnogaeth gan Cymru Greadigol. Bydd fersiwn o’r gyfres, wedi ei leisio gan yr actor Matthew Rhys, yn cael ei dosbarthu yn rhyngwladol gan Cineflix Rights.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.