MAE cyfres ddrama Anfamol yn ôl ac mae Ani yn chwilio am gariad – a’r tro hwn mae hi am daflu’r rhwyd yn eang.

Mae llawer o ddŵr wedi bod o dan y bont ers i ni weld Ani yng nghyfres gyntaf Anfamol – mae Llew ei mab bellach yn 18 mis oed; mae Ani a’i chwaer yn dygymod â marwolaeth eu mam; ac mae ei gyrfa fel cyfreithwraig deuluol yn mynd o nerth i nerth.

Ond mae Ani yn parhau i deimlo gwacter yn ei bywyd – gwacter na chafodd ei lenwi gyda geni ei mab yng nghyfres 1 o Anfamol.

Bethan Ellis Owen sydd yn dychwelyd i chwarae rhan Ani, cymeriad gwnaeth hi ei phortreadu gyntaf ar lwyfan theatrau Cymru, cyn ei throsglwyddo i’r sgrin fach ar S4C.

Meddai Bethan: Dwi’n ofnadwy o falch bod ail gyfres, dwi’n caru chwarae cymeriad Ani ers y ddrama lwyfan. Mae hi wedi bod yn daith gret ac mae’r cymeriad yn datblygu a pethau newydd yn codi.

“Mae’r trywydd mae hi wedi mynd â ni y gyfres yma yn grêt dwi’n meddwl, mae’r cymeriad yn gorfod cwestiynu ei hun, mae pethau o’r gorffennol yn codi.

“Mae’r gyfres hon yn fwy amdani hi a’i theimladau hi... mae hi’n gorfod edrych ar y pethau mae hi wedi eu claddu o’r gorffennol a delio hefo nhw. Mae bach mwy o hiwmor yn y gyfres hon. Mae’r hiwmor yn dod yn fwy o’r cymeriadau eraill fel Rhydian a Nia.”

Cymeriad newydd sydd yn ymuno yn nrama bywyd Ani yw Alex – cymeriad sydd yn cymhlethu bywyd ac emosiynau Ani gan ail danio sbarc ynddi nad oedd hi’n cofio ei fod yno.

Heledd Gwynn sydd yn camu i esgidiau Alex ac mae’n falch ymuno gyda thîm sy’n teimlo fel teulu iddi, meddai: “Mae e mor neis cael gwneud rhywbeth ysgafn – sydd ddim heb ei emosiwn na’i wirionedd, mae i gyd wedi’i osod ar wirionedd anodd – ond mae hyn yn adlewyrchu bywyd. Dwi’n hoff o’r elfennau swreal, mae’n rhywbweth eithaf prin i ddilyn llinyn stori sydd yn mynd â ti i rhywle doeddet ti ddim yn ei ddisgwyl o gwbwl.

“Mae Anfamol yn cynnig stori nad sydd ar ein sgriniau, mae’n traco bywyd messy, secsi, brwnt, emosiynol, raw – ti ishe mynd ar y siwrne gydag Ani – mae’n twymo dy galon ar yr un pryd a gwneud ti i chwerthin a llefain ar yr un pryd.”

Rhiannon Boyle sydd wedi ysgrifennu’r ail gyfres yn dilyn ei llwyddiant ar y gyfres gyntaf, ond yn credu bod y tîm creadigol wedi dyrchafu hyd yn oed yn fwy gyda’r ail gyfres.

“Mae’r ansawdd cyffredinol wedi codi – o’n i isho fo deimlo mwy fatha drama. Pan mae Ani yn rhoi looks to camera dan ni gyd yno hefo hi, dan ni gyd yn gallu uniaethu hefo hi.”

Mae cyfres 1 o Anfamol i’w gweld nawr ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Does dim rhaid eich bod wedi ei gweld hi er mwyn gallu mwynhau’r gyfres newydd – ond mae binjo’r ddau yn gaddo trît perffaith dros y Pasg.

Anfamol

Nos Sul, 5 Ebrill 21.00 & Nos Fercher, 8 Ebrill 21.00 i gynnwys is-deitlau Saesneg

Bocset ar gael ar: S4C Clic a BBC iPlayer.

Cynhyrchiad BBC Studios ar gyfer S4C