WRTH ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Rheol Trefniadaeth Sifil ar newidiadau arfaethedig i’r Rheolau Trefniadaeth Sifil a’i Gyfarwyddiadau Ymarfer sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi mynegi pryder am gydnabyddiaeth y pwyllgor perthnasol o statws cyfartal testunau Cymraeg a Saesneg deddfwriaeth Cymru.

Mae’r ymgynghoriad presennol yn gofyn am farn ynghylch sut i fynd ati mewn llys i bennu bwriad deddfwriaeth os oes anghytundeb ynghylch ystyr testunau Cymraeg a Saesneg y ddeddfwriaeth.

Ar hyn o bryd, yr arfer yw ble bynnag y bydd hynny’n ymarferol bod achos o’r fath yn digwydd gerbron barnwr Cymraeg ei iaith gan roi’r opsiwn o benodi asesydd annibynnol i gynghori barnwr. Yn yr ymgynghoriad ar y rheolau ar gyfer y dyfodol mae’r Pwyllgor yn ffafrio opsiwn sy’n golygu nad yw’n orfodol penodi barnwr sy’n siarad Cymraeg i wrando achosion o’r fath.

Yn ei hymateb mae Comisiynydd y Gymraeg o’r farn bod rhaid cael barnwr sy’n siarad Cymraeg ac sydd felly yn ddwyieithog i wrando achosion o’r fath bob tro, ac na ddylai fod yn opsiwn penodi asesydd annibynnol.

Dywed Efa Gruffudd Jones: “Mae rhagdybiaeth yn yr ymgynghoriad fod y Gymraeg ym maes deddfwriaeth yn cael ei gweld fel ‘problem’ sydd angen ei goresgyn. Nid yw hyn yn cydnabod y ffaith fod deddfwriaeth a ddeddfir yng Nghymru yn cael eu deddfu yn y Gymraeg a’r Saesneg a bod i’r ddwy iaith statws gyfartal.

“O ystyried hynny nid yw cynnig bod modd cael barnwr i wrando achosion o’r fath fel rhywbeth opsiynol ble bynnag bo hynny’n briodol yn addas gan nad mater opsiynol yw statws cyfartal deddfwriaeth a ddeddfir yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yn hytrach mae eu statws cyfartal yn absoliwt.

“Dim ond barnwr sy’n siarad Cymraeg a sydd felly yn ddwyieithog all bennu ystyr testunau dwyieithog deddfwriaeth.”

Gellir darllen ymateb llawn y Comisiynydd drwy ddilyn y ddolen hon