AR ddydd Llun, 6 Hydref, bydd seren rygbi Cymru George North yn Siop Lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon rhwng 12 a 2 y prynhawn, i gwrdd â chefnogwyr ac arwyddo ei hunangofiant newydd, No Other Place (Harper Collins).

Wedi ei fagu yn Sir Fôn, daeth North i enwogrwydd fel y chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio cais yn ei gêm gyntaf erioed yn 18 oed yn erbyn De Affrica.

Bellach mae wedi ymddeol o’r gêm yn rhyngwladol, ac ef yw’r trydydd chwaraewr â’r mwyaf o gapiau dros ei wlad yn hanes Cymru yn dilyn 121 gêm brawf.

Yn No Other Place, sydd wedi ei sgwennu ar y cyd â’r awdur chwaraeon Tom Fordyce, mae North yn edrych yn ôl ar ei yrfa arbennig, fel y chwaraewr ieuengaf erioed i gyrraedd 100 o gapiau dros ei wlad, a’r ail sgoriwr uchaf gyda 47 cais.

Mae North yn onest, yn garismatig, yn feddylgar ond yn gystadleuol dros ben, ac mae ei stori’n rhoi cip olwg i ni ar grefft, meistrolaeth a grym gêm rygbi.

Meddai Eirian James, perchennog siop lyfrau Palas Print: Ac yntau wedi ei fagu dros y dŵr yn Sir Fôn rydan ni’n gwybod bod gan George North lawer iawn o gefnogwyr yma yng ngogledd Cymru, ac rydan ni wrth ein boddau yn croesawu George yma i’r siop wrth iddo gyhoeddi ei hunangofiant.

“Gyda gyrfa mor hir a llwyddiannus y tu ôl iddo, mae No Other Place yn saff o fod yn llawn o straeon a hanesion arbennig, felly allwn ni ddim aros i ddechrau darllen a chyfarfod y dyn ei hun.

“I osgoi siom ar y diwrnod rydym ni’n annog pawb i archebu llyfr o flaen llaw, i wneud yn siŵr eich bod yn mynd â chopi wedi ei arwyddo adref gyda chi.”