YR wythnos hon cyhoeddir y gyfrol gyntaf am yr arloeswr a threfnydd cyntaf Plaid Cymru, H.R. Jones.
Yn H.R.: Gŵr a Chymru yn ei Galon (Y Lolfa), cofnodir hanes H.R., y ‘gŵr o Ddeiniolen mor welw ei wedd’, yng nghân Dafydd Iwan am y chwe chant a naw, sef cyfeiriad at Lewis Valentine yn ennill 609 o bleidleisiau yn etholaeth Caernarfon yn ystod ymdrech gyntaf Plaid Cymru mewn Etholiad Cyffredinol yn 1929.
Meddai Glyn Tomos: “Fel un wedi ei fagu yn Ninorwig, pentref drws nesaf i Deiniolen, sef pentref genedigol H.R., roeddwn yn ymwybodol ohono o oedran gweddol ifanc. Roeddwn eisiau gwybod mwy am beth ysgogodd y ffigwr amlwg hwn, oedd mor fregus ei iechyd.”
Ganed Hugh Robert Jones yn 1894 a magwyd ym mhentref Ebenezer – neu Deiniolen fel y elwir heddiw. Gadawodd yr ysgol yn 13 oed gan fynd i weithio yn Chwarel Dinorwig. Daeth H.R. yn un o arloeswyr cynnar Plaid Genedlaethol Cymru (Plaid Cymru heddiw) yn ystod dauddegau’r ganrif ddiwethaf cyn ddod yn Drefnydd ar y Blaid.
Meddai Yr Athro Richard Wyn Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd: “Dyma deyrnged hyfryd – a theimladwy, ar adegau – sy’n adfer y cof am un o ffigyrau coll gwleidyddiaeth Cymru a rhai o’i gydweithwyr agosaf. Darllenwch a rhyfeddwch at yr hyn a gyflawnodd H.R., er gwaethaf salwch creulon a’i cipiodd yn rhy ifanc o lawer.”
Gyda chyflwyniad gan Dafydd Wigley, mae H.R. – Gŵr a Chymru yn ei Galon yn ceisio bwrw goleuni ar sut ddaeth gŵr heb lawer o addysg ffurfiol yn feddyliwr a gweledydd o’r fath am Gymru ei wlad. Mae’n archwilio beth a ddylanwadodd arno a sut arweiniodd hynny at ei argyhoeddiad gwleidyddol o geisio sicrhau ymreolaeth i Gymru.
Dywed Glyn Tomos,: “Rwy’n gobeithio bod y gyfrol hon yn deyrnged haeddiannol i gofnodi cyfraniad H.R. er mwyn iddo gael y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus iddo. Mae wedi bod yn anrhydedd o’r mwyaf cael cyfle i groniclo bywyd a chyfraniad y gŵr arbennig hwn a’i rannu gyda phobl Cymru.”
Bydd H.R. – Gŵr a Chymru yn ei Galon yn cael ei lansio’n swyddogol ar yn Neiniolen, Caernarfon a Chaerdydd. Croeso mawr i bawb.
Dyma’r manylion:
08/12 – 7 o’r gloch yn Ysgol Gwaun Gynfi, Deiniolen
10/12 – 7 o’r gloch, Clwb Hwylio Caernarfon
11/12 – 7 o’r gloch, Ystafell First Space, Chapter, Caerdydd
Mae H.R. – Gŵr a Chymru yn ei Galon gan Glyn Tomos ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).
Am yr awdur
Brodor o Dinorwig yn Arfon yw’r awdur. Wedi graddio yn y Brifysgol ym Mangor fe ddilynodd yrfa ym maes gofal cymdeithasol yng Ngwynedd. Sefydlodd y cylchgrawn pop Sgrech ar ddiwedd y 1970au, cyhoeddodd sawl llyfr am gymeriadau ei fro enedigol ac fe gyhoeddodd ei hunangofiant ‘Deffro i Fore Gwahanol’ yn 2020. Mae yn ymgyrchydd iaith ers degawdau ac yn un o’r pedwar i’w diarddel o’r Brifysgol ym Mangor ym mis Tachwedd 1976 ond a lwyddodd i ddychwelyd ar ddechrau 1977 yn sgil protestiadau lu. Mae wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon ers 27 mlynedd lle bu’n Gadeirydd Bwrdd Golygyddol ‘Papur Dre’ (Caernarfon) am 23 mlynedd. Mae yn briod gyda Rhian ac yn dad i Alis.





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.