MEWN cyfres ddwy ran arbennig ar S4C cawn gyfle i groesi trothwy labordy chwedlonol CERN yn Genefa gan olrhain hanes ei sefydlu, y gwaith chwyldroadol sy’n digwydd yno, a’r gwyddonwyr o Gymru sydd wrth galon y cyfan.
Darlledwyd pennod gyntaf Gronyn Gobaith – Cymry CERN ar nos Fawrth 24 Mehefin (S4C, Clic a BBC iPlayer gydag isdeitlau Saesneg).
“Ym mis Awst eleni bydd 80 mlynedd ers i’r bomiau atomig cyntaf gael eu gollwng. Sgil effaith a chanlyniadau enbyd hynny oedd cnewyllyn sefydlu CERN,” esbonia Elin Rhys, cynhyrchydd y gyfres ar ran cwmni Telesgop.
“Ar ôl y rhyfel, ac ar ôl cefnogi Oppenheimer i greu’r bom fel rhan o Brosiect Manhattan, roedd nifer o wyddonwyr Ewrop yn byw gydag euogrwydd am yr hyn oedd wedi digwydd. Roedden nhw’n awyddus i ddychwelyd i Ewrop i sefydlu canolfan wyddoniaeth fyddai er budd heddwch, gan rannu’r holl ganlyniadau’n gyhoeddus. Dyma ddechrau hanes anhygoel CERN – arbrawf ffiseg gronynnau cyntaf a mwyaf Ewrop.”
Mae CERN yn sefydliad unigryw sy’n uno 17 mil o bobol ac yn cynrychioli 110 o genhedloedd ar draws y byd, gan gynnwys Cymru.
Yn ogystal â’r gyfres Gymraeg, mae fersiynau rhyngwladol a theatrig wedi eu cynhyrchu.
Bydd The Peace Particle, ffilm ddogfen 90 munud yn cael ei dangos yn CERN yn Genefa ar 4 Gorffennaf – y dyddiad y darganfuwyd y Boson Higgs – a caiff ei ddarlledu’n fuan ar ARTE.
Un o’r prif arbrofion gwyddonol yn hanes CERN oedd adeiladu’r Large Hadron Collider (LHC), neu’r gwrthdarydd hadronau mawr.
Peiriant cymhleth tu hwnt sydd yn efelychu be ddigwyddodd lai nag eiliad wedi’r Glec Fawr, gan arwain at ddarganfyddiad arloesol o’r Boson Higgs. A phwy oedd yn arwain y prosiect hanesyddol? Neb llai na'r Cymro, Dr Lyn Evans.
“Hwn wir yw'r prosiect gwyddonol mwyaf a mwyaf cymhleth erioed,” meddai.
“Dw i’n credu nad y wyddoniaeth oedd yn ennyn diddordeb y cyhoedd, ond y syniad yma y byddai’r LHC yn y bôn yn ffrwydro’r bydysawd! Wrth gwrs roedden ni’n gwybod yn iawn nad oedd yn wir o gwbl, ond dwi’n cofio dweud, os oes unrhyw un yn mynd i ffrwydro’r bydysawd, pam ddim bachgen o Aberdâr!”
Un arall y cawn ddilyn ei hanes ar Gronyn Gobaith – Cymry CERN yw Dr Rhodri Jones, a fagwyd yng Nghaerfyrddin am ychydig fisoedd yn unig, cyn i’r teulu symud i fyw i’r Iseldiroedd. Mae Rhodri heddiw yn arwain tîm o 600 o bobl yn CERN, ac yn hawlio’r teitl swydd arobryn, Pennaeth y Pelydrau. Tîm Rhodri sydd yn gyfrifol am ddarparu’r pelydrau ar gyfer pob arbrawf o fewn CERN.
Aiff y gyfres a ni ar daith i ddysgu am nifer fawr o Gymry fu’n gwneud cyfraniadau dihafal yn CERN, a’n cyflwyno i don newydd o wyddonwyr ifanc.
Un o’r rhain, sy’n berwi â’r un chwilfrydedd a’i ragflaenwyr yw Dr Ynyr Harris o’r Felinheli, cymrawd Ymchwil ATLAS yn CERN.
“Mae ffiseg yn ffantastig,” meddai’r cyn fyfyriwr o Brifysgol Rhydychen gyda gwên. “Ffiseg ydi limit chwilfrydedd dynoliaeth hyd yma. Mae CERN fel dinas bron iawn, a’r unig ddeddfau ydi ffiseg.”
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.