"BRAINT ac anrhydedd" yw arwain trefniadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd y flwyddyn nesaf meddai Aled Griffiths, cadeirydd y pwyllgor gwaith.

Dywedodd fod bwrlwm a brwdfrydedd yr ardal yn heintus a bod edrych ymlaen eiddgar ar gyfer y Brifwyl ymhen blwyddyn.

Un o'i obeithion ar gyfer yr Eisteddfod yw'r hwb roddir i'r ardal leol yn economaidd ac yn arbennig i'r iaith Gymraeg a ddiwylliant Cymru.

Meddai: "Bydd croeso mawr i'r Eisteddfod Genedlaethol pan ddaw yn ôl i Faldwyn yn 2027. Bu ym Meifod ddwy waith ers ei ymweliad diwethaf a Dyffryn Dyfi yn 1981. Ac mae'r gwaith caled o drefnu, chodi ymwybyddiaeth a chyraedd y nod ariannol wedi hen ddechrau.

"Rydym ar don o brysurdeb yn barod ac fe gyhoeddwyd yr Eisteddfod mewn digwyddiad llwyddianus iawn yn Llanidloes fis Mai. Fe fydd yr ymdrechion yn cynyddu yn ystod y misoedd nesaf.

"Mae Dyffryn Dyfi cael ei gydnabod fel un a gadarnleoedd y Gymraeg a diwylliant Cymru ond mae angen yr Eisteddfod i ymweld er mwyn cryfhau a chadarnhau hynny.

“Rydym yn mwynhau cefnogaeth sylweddol ar gyfer yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf gan drigolion Cymraeg yr ardal wrth gwrs ond hefyd gan y rhai nad ydynt yn siared yr iaith.”

Cyhoeddwyd yn gynharach eleni mae Glantwymyn ger Machynlleth fydd cartref y Brifwyl yn 2027.

Ychwanegodd Aled: “Ond mae fod sir Powys i gyd yn y dalgylch ac mae cyfle i drigolion ar hyd a lled y sir chwarae’u rhan o gydweithio ar y trefniadau i godi ymwybyddiaeth ym mhentrefi a threfi ar draws y fro. Yn ychwanegol bydd cyfleoedd perfformio i blant, pobl ifanc, corau a grwpiau o bob math yn ystod y Brifwyl.

“Rydyn ni mor agos at y ffin gyda Gwynedd yma yng Nglantwymyn, rydym yn falch iawn fod y dalgylch hefyd yn cynnwys de Meirionnydd, felly mae Dyffryn Dysynni, ardal Dolgellau a phum plwyf Penllyn hefyd yn rhan o’r dalgylch. Cyfle felly i drigolion yr ardal fod yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf ers 2009.”

Yn bumed genhedlaeth ar y fferm deuluol ger Cwmllinau ger Machynlleth mae’n cadw defaid a rhedeg maes gwersylla yng Nghemaes. Bu'n ysgrifennydd ac asiant yswiriant yn swyddfa'r NFU yn Y Drenewydd er 1997 ac mae’n gyn-gadeirydd ar sefydliad ysgrifenyddion y Deyrnas Unedig o’r undeb.

Mae ei filltir sgwâr yn bwysig iddo, ac mae’n aelod o Gyngor Cymuned Glantwymyn ers dros 25 mlynedd, ac yn gadeirydd Neuadd Cwmllinau.

Mae gan deulu Aled gefndir balch gyda'r Eisteddfod Genedlaethol. Bu ei dad, Meurig Griffiths, yn gadeirydd y pwyllgor cyllid pan ddaeth yr Eisteddfod i Fachynlleth yn 1981.

Eglurodd Aled: "Mae ei gysylltiad yn mynd yn ôl ymhellach na hynny. Fy nhad oedd un o'r macwyaid pan gynhalwyd yr Eisteddfod ym Machynlleth nol yn 1937.

“Roedd fy nhad a mam, Ebrillwen, yn Eisteddfodwyr brwd ac mae gennai atgofion o ymweld a'r Eisteddfod ers yn blentyn bach.

"Mae'n fraint ac anrhydedd gael fy newis fel cadeirydd y pwyllgor gwaith ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd ac erfyniaf ar bawb i wneud pob ymdrech i'n cefnogi."