YR wythnos hon mae cyfrol arbennig yn cael ei chyhoeddi gan wasg y Lolfa i werthfawrogi hiwmor un o’r cyfresi mwyaf poblogaidd yn hanes teledu Cymraeg sef yr anfarwol C’mon Midffîld!
Mr Picton, Wali Tomos, Tecs, George Huws, Sandra… Cymeriadau sydd wedi gwneud eu marc, ac sy’n dal i fod yr un mor fyw yng nghalonnau ac ar dafodau’r Cymry bron i ddeugain mlynedd wedi i’r gyfres gyntaf gael ei darlledu. Mae Midffîld! a thrigolion Bryncoch yn dal i gael eu trafod a’u dyfynnu, a’u dathlu’n gyson.
Yn 2023, lansiwyd Pod Midffîld!, podlediad i drafod y gyfres deledu eiconig – ‘gan y ffans, ar gyfer y ffans’. Gethin Owen (athro) a Tom Gwynedd (hyfforddwr awyr agored) sy’n sgwrsio, gyda Caio Iwan (newyddiadurwr) yn llywio’r drafodaeth – tri ffrind sydd wedi tyfu i fyny yn addoli Midffîld!. Mae’r tri yn trafod y penodau yn gronolegol, fesul un, ac yn cael cwmni gwesteion arbennig ar hyd y daith.
Mae Hiwmor C’mon Midffîld yn gyfrol unigryw, hawdd-ei-darllen ac yn seiliedig ar y podlediad hwnnw, ac yn cynnig “geid syml i hiwmor haenog” y gyfres hoff. “Does yna ddim mwy i’w ddweud am C’mon Midffîld” yn ôl Alun Ffred Jones. Ceir golwg ar ffraethineb y sgriptio, dywediadau cofiadwy (a rhai mwy cynnil) y cymeriadau, a dadansoddiadau/damcaniaethau tafod-yn-y-boch.
Hefyd mae ynddi gasgliad o broffiliau cymeriadau – o Arthur i Osborne Picton, o Graham i Harold Monk – ar ffurf player profiles, sy’n nodi hoff ddyfyniadau’r awduron gan bob un. At hynny, mae’r gyfrol yn gorffen gyda chwis arbennig (ac addysgiadol!), wedi’i rannu’n dair rownd, i brofi gwybodaeth y darllenydd. Jyst y peth i godi hwyl rhwng ffrindiau a theuluoedd.
Bydd Hiwmor C’mon Midffîld yn cael ei lansio’n swyddogol am 7:30yh ar nos Wener 5ed Rhagfyr yng Nghlwb Hwylio Caernarfon. Croeso mawr i bawb!





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.