ELENI mae Plaid Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant ac i nodi'r achlysur cyhoeddir llyfr newydd gan wasg Y Lolfa sy’n cyflwyno cefndir ei ffurfio yn ôl yn 1925.
Mae Dros Gymru’n Gwlad gan Arwel Vittle a Gwen Angharad Gruffudd yn cofnodi hanes yr unigolion a’r grwpiau fu’n allweddol wrth sefydlu’r hyn a alwyd ar y pryd yn Blaid Genedlaethol Cymru. Datgelir ffeithiau newydd a dogfennau dadlennol na chyhoeddwyd erioed o’r blaen.
Pobl ifanc ffurfiodd Blaid Cymru. Pobl yn eu hugeiniau a’u tridegau cynnar yn llawn egni ac ysbryd gwrthryfelgar. Pobl fel H.R. Jones, Mai Roberts, Ambrose Bebb, Ifan Alwyn Owen, Lewis Valentine a Saunders Lewis.

Meddai un o’r awduron, Arwel Vittle: “Gwrthryfel oedd prif symbyliad y bobl ifanc hyn. Gwrthryfel yn erbyn Prydeindod a gwrthryfel yn erbyn yr hen ffordd o wneud pethau yng Nghymru.”
Gosodir sefydlu’r Blaid yng nghyd-destun cyffro’r 1920au – moderniaeth yn y celfyddydau a newid gwleidyddol mawr, o Ryfel Annibyniaeth Iwerddon i dwf sosialaeth a’r asgell dde eithafol yn Ewrop ac ym Mhrydain.
Amlinellir dylanwad mawr brwydr rhyddid Iwerddon, methiant y pleidiau Prydeinig i warchod Cymru, a chysgod hir y Rhyfel Mawr ar y genhedlaeth yma.
Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys delweddau a ffotograffau na welwyd o'r blaen a nifer o'r rheini wedi’u lliwio.
Mae’n hawdd meddwl wrth edrych ar hen luniau du a gwyn mai pobl wedi’u rhewi ym mhell yn ôl mewn amser, heb unrhyw gysylltiad gyda’n hoes ni, oedd yr arloeswyr, ond yn Dros Gymru'n Gwlad cyflwynir darlun byw a newydd ohonynt.
Adroddir am rôl allweddol bwysig merched fel Mai Roberts, Mallt Williams ac Elisabeth Williams yn y dyddiau cynnar; ystyrir pa mor agos y daeth sylfaenydd yr Urdd, Ifan ab Owen Edwards, at fod yn un o sefydlwyr Plaid Cymru; a gwelwn ran allweddol Saunders Lewis yn rhoi trefn, disgyblaeth a gweledigaeth i genedlaetholwyr cecrus y 1920au.

Cyflwynir yr hanes mewn arddull sy’n symud yn gyflym, gan ddweud stori'r bobl allweddol a chyfleu brwdfrydedd, egni a chyffro dyddiau cynnar Plaid Genedlaethol Cymru.
Cafwyd digwyddiad lanio y llyfr yng Nghlwb Bowlio Caerfyrddin ar nos Wener, 4 Gorffennaf.
Bydd nifer o ddigwyddiadau eraill i lansio’r llyfr:
· Gŵyl Arall Caernarfon – dydd Sul, 13 Gorffennaf, 2.30yp. Sgwrs rhwng Arwel Vittle a Gwen Angharad Gruffudd yn trafod eu cyfrol newydd ar sefydlu Plaid Cymru ganrif union yn ôl.
· Lansiad Swyddogol yn Y Pierhead, Bae Caerdydd – nos Iau, 17 Gorffennaf, 6.30–9yp. Arwel Vittle a Gwen Gruffudd yn trafod eu llyfr newydd gyda Karl Davies mewn achlysur a noddwyd gan Mabon ap Gwynfor AS ac a drefnwyd gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru.
· Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam – dydd Sadwrn, Awst 2, 11.30yb, Cymdeithasau 2, ‘Merched Sefydlu Plaid Cymru’. Sgwrs gan yr Archif Wleidyddol Gymreig / Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda Gwen Gruffudd ac Arwel Vittle, awduron Dros Gymru'n Gwlad. Cadeirydd: Dylan Iorwerth.
· Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam - dydd Mercher, Awst 6, 2.00yp, stondin Plaid Cymru. Gwen Gruffudd ac Arwel Vittle yn trafod eu cyfrol ar sefydlu'r Blaid – Dros Gymru'n Gwlad.
Yr Awduron
Arwel Vittle
Mae Arwel Vittle yn awdur amryw o nofelau a llyfrau ar hanes diweddar Cymru, gan gynnwys Valentine: Cofiant i Lewis Valentine, Cythral o Dân am losgi’r Ysgol Fomio a Dim Croeso 69: Gwrthsefyll yr Arwisgo.
Gwen Angharad Gruffudd
Golygydd yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yw Dr Gwen Angharad Gruffudd. Ymhlith ei phrif ddiddordebau ymchwil y mae hanes cynnar Plaid Cymru a diwylliant llenyddol poblogaidd ardal y llechi.
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.