YR wythnos hon cyhoeddir llyfr i blant sy’n ceisio gwneud plant a theuluoedd yn fwy cyfarwydd gyda byd natur a thro’r tymhorau.

Mae Olwyn y Flwyddyn (Y Lolfa) yn llyfr llawn ffeithiau, gweithgareddau, a lluniau lliw hyfryd.

Mae’r awduron a’r arlunwyr, Nia Jewell a Nia Dooley, yn gweithio gyda’i gilydd dan yr enw Y Pethau Bychain, lle maen nhw’n hyfforddi, cynnig gweithdai a chreu adnoddau addysgiadol sy’n hybu lles a chysylltedd natur.

Meddai Nia Jewell: “Dani’n byw mewn byd o sŵn a sgrin (yn ein tŷ ni beth bynnag!) ac yn treulio mwy o amser dan do nag erioed o’r blaen.

“Roeddem eisiau creu rhywbeth i’n tynnu ‘nôl at y pethau syml – awyr iach, lliwiau natur a’r hud sydd i’w gael wrth gamu tu allan. Mae’r llyfr yn cynnig ffyrdd bach o gynnal cysylltiad byw gyda’r byd.”

“Mae ein cefndir yn seiliedig ar addysg sy’n ymwybodol o drawma (trauma-informed education), ac mae gennym gymwysterau Llesiant ym Myd Natur ac i arwain Ysgol Goedwig. Credwn yn gryf yng ngallu natur i helpu’r corff a’r meddwl, ac i ddod â theimlad o heddwch i bobl,” meddai Nia Dooley.

Yn llawn lluniau lliw, mae’r llyfr wedi’i rannu i 12 pennod, un ar gyfer pob mis y flwyddyn. Mae’r llyfr yn cynnig gwahoddiad i ddathlu’r misoedd yn eu tro gyda ryseitiau e.e. pesto gwyllt mis Mawrth a gweithgareddau celf a chrefft e.e. creu Cadi Haf yn mis Mai.

Hefyd, rhoir sylw at y gwahanol blanhigion ac anifeiliaid i’w gweld bob mis, yn ogystal â thraddodiadau gwerin.

“Rydym yn gobeithio bydd plant yn dysgu rhywbeth newydd am y byd o’n cwmpas ac yn dechrau sylwi ar y newidiadau bach sy’n digwydd wrth i olwyn y flwyddyn droi,” meddai Nia Dooley.

Mae Olwyn y Flwyddyn gan Nia Dooley a Nia Jewell ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).