YR wythnos hon cyhoeddir argraffiad newydd sbon o lyfr cofnodi cerrig milltir baban bach, a dyma’r cyntaf o’i fath yn y Gymraeg ers 1984.

Mae Fy Mhlentyn Tlws: Y Cerrig Milltir Cyntaf (Y Lolfa) yn llyfr clawr caled hardd, gyda darluniadau lliw gwreiddiol Lleucu Gwenllian yn addurno pob tudalen.

Yn anrheg berffaith i rieni newydd, mae’r llyfr yn argraffiad cain, hardd. Bu’r gyfrol flaenorol, Dyma Fi!, yn werthwr selog ers 1984, pan gyhoeddwyd gyntaf.

Meddai Nia Grruffydd, Golygydd Llyfrau Plant a Phobl Ifanc y Lolfa: “Mae’n bleser gennym weld cyfrol i groesawu baban bach a chofnodi atgofion y misoedd cyntaf ar gael yn Gymraeg yn ein siopau llyfrau unwaith eto.

“Mae’r gyfrol hon wedi ei diweddaru’n gyfan-gwbl ac yn cynnwys hoff hwiangerddi a digon o le i roi lluniau teuluol. Dw i’n siŵr bydd rhieni a theuluoedd newydd wrth eu bodd gyda’r gyfrol a bydd yn llyfr i’w drysori am byth.”

Mae’r llyfr yn cynnig lle i nodi atgofion annwyl a cherrig milltir pwysig, yn cynnwys nodi geiriau a chamau cyntaf i hoff fwyd y baban newydd. Mae lluniau Lleucu Gwenllian o anifeiliaid y goedwig yn swyno ar bob tudalen.

Meddai Lleucu Gwenllian: “Roedd cael y cyfle i weithio ar Fy Mhlentyn Tlws yn bleser llwyr, yn enwedig ar lyfr fydd yn caniatáu i rieni newydd gofnodi atgofion arbennig aelod newydd eu teulu drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd ail-ymweld gyda hwiangerddi o fy mhlentyndod a darlunio cast o anifeiliaid bach i gyd-fynd yn lot o hwyl!”

Mae Fy Mhlentyn Tlws ar gael nawr (£12.99, Y Lolfa).