MAE pethau ar fin poethi ar lethrau’r Alpau Ffrengig wrth i’r gyfres garu realaeth boblogaidd Amour & Mynydd ddychwelyd i S4C ar 10 Chwefror.
Bydd criw newydd o unigolion sengl yn cael cyfle unigryw i ddod o hyd i gariad ac efallai darganfod mwy amdanynt eu hunain ar hyd y ffordd.
Dros gyfnod o ddeuddeg niwrnod, bydd y criw yn cydfyw yn chalet Amour & Mynydd yng nghanol golygfeydd syfrdanol mynyddoedd yr Alpau Ffrengig.
Y cyflwynydd Elin Fflur fydd yn arwain y criw drwy’r profiad, eu hannog i wynebu penderfyniadau a chyflwyno ambell sypreis.
Mae Elin o’r farn mai’r cyfle i ‘fusnesu ym mywydau pobl eraill’ oedd yn gyfrifol am lwyddiant cyfres gyntaf Amour & Mynydd: “Dan ni gyd yn licio gweld sut mae pobl yn ymateb i’w gilydd mewn sefyllfa sydd yn reit intense – dyna lwyddiant y rhaglenni realaeth ‘ma” meddai Elin.
“Yn draddodiadol, fel Cymry Cymraeg, dan ni’n bobl eitha parchus; dan ni’m yn licio datgelu gormod amdanan ni’n hunain, a bod yn hollol exposed ar deledu fel’na. Felly dwi’n meddwl mai dyna pam gafodd y gyfres gynta’ gymaint o sylw.”
Yn gwbl wahanol i’r arferiad o ddetio ar-lein, mae Amour & Mynydd yn mynd i’r afael â chreu cysylltiad wyneb yn wyneb gan ddibynnu ar hud atyniad naturiol: “Dwi jest yn falch mod i ‘di priodi!” meddai Elin. “Mae apps yn gymaint o ran o fywydau pobl heddiw – mae Amour & Mynydd yn gorfodi pobl i fynd yn ôl i’r ffordd hen ffasiwn o gyfarfod ei gilydd – fel baset ti’n cyfarfod rhywun yn y dafarn erstalwm!”
Bydd fodcast wythnosol Après: Amour & Mynydd ar sianel YouTube S4C, S4C Clic a BBC iPlayer, lle bydd y ddeuawd ddoniol a ‘super-ffans o’r gyfres, Mari Beard a Meilir Rhys Williams yn trin a thrafod y diweddaraf o amour yr Alpau.
Bob wythnos, bydd y ddau, sy’n adnabyddus am eu podcast hwyliog ‘Cwîns’ yn cael cwmni gwesteion arbennig i hel clecs, dadansoddi a rhannu sylwadau am y bennod.
Y rhai fydd yn cymryd rhan bydd:

- Alaw, 23 oed o Bwllheli – Dawnswraig:
”Dwi definitely efo type – dwi’n definitely’n ffeindio rygby players yn fit!”

- Rhys, 28 oed o Abertawe’n wreiddiol ond yn byw ac yn athro yn Abu Dhabi:
“Pam fi’n sengl? Anlwcus? Fi’n gwbod bo’ fi’n waith caled, ond dyna jest y math o gymeriad ‘i fi. Dwi’n out there, ty’m bach o extrovert, so mae pobl yn clywed fi cyn bo’ nhw’n gweld fi, a falle bo’ hynna ty’m bach yn annoying i rai pobl.”

- Jasmine, 29 o Lanfrothen – Artist:
“Dwi wrth fy modd efo glamour, fur, sequins, diamonds, you name it. Obviously maen nhw i gyd yn faux – fedrai’m fforddio i brynu’r peth go wir. Dwi ishio rhywun sy’n onest a bod nhw’m yn cymryd eu hunain yn rhy serious.”

- Evie, 27 oed o Drefriw, Dyffryn Conwy – Nyrs Milfeddygol:
“Dwi’n gobeithio ffeindio the love of my life – rhywun dwi ishio priodi. Rhywun dwi ishio treulio rest o bywyd fi efo, a rhywun i gael hwyl efo. Dwi’n teimlo bod hwn yn opportunity da i gyfarfod rhywun yn syth – i fynd yn syth i’r deep end a dwi jest yn gallu dod i nabod nhw achos mod i’n byw efo nhw. Dwi ddim efo syniad be i ddisgwyl.”

- Connor, 28 oed o Fanceinion – Swyddog Marchnata Digidol:
“Dwi’n teip o foi siwr o fod sy’n dod ‘nôl i gwrdd â’ch Mam a bydd Mam yn hapus gobeithio. Dwi’n berson positif, ond dwi jest eisiau dangos pwy ydw i i’r byd – ac i’r chalet ‘ma!”

- Rowan, 27 oed o Eglwysbach – Arbennigwyr Technoleg Amaethyddol:
“Sw’n i’m yn deud bo’ fi’n llawer o Prince Charming, ond mae ‘na bob siawns i mi allu disgyn mewn cariad efo rhywun yn Ffrainc – mae’n dibynnu pwy sy’ ‘na. Bring it on. Base hwn yn gallu newid bywyd fi!”

- Gwern, 26 oed o Landysul – Gweithiwr Elusennol:
”Newydd ddod nôl o Awstralia ydw i, so ‘di merched Cymru heb gael siawns eto!
“Wi’n chwilio am berson eitha hyderus a galluog – dwi’n credu bod hwnna’n bwysig iawn.”

- Manon, 26 oed o Lanelli – Gwas Sifil:
”Bydde ffrindie fi’n deud bo’ fi’n falle cael lot o sylw gan fechgyn a bo’ fi bach o fflyrt…wrth gwrs bo’ fi’n catch.
“Ma’ ‘da fi criteria itha strict pan mae’n dod i fechgyn – rhywun sy’n dal, chwarae lot o chwaraeon, gwallt neis a dannedd neis.
“Ma’ lot o fechgyn di deud bo’ fi’n intimidating, ond sai’n gwbod pam”!

-created-by-renowned-artist-Andy-Dimeone-Birch-(left)--Photos-Pwllheli-Town-Council.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.