MAE llyfr newydd Llys Glyndŵr yn caeo ei lansio yn Senedd-dy Owain Glyndŵr ym Machynlleth nos Wener.

Cafwyd y syniad ar gyfer y gyfrol gan yr artist Dan Llywelyn Hall, o Llanfyllin.

Mae Dan yn arlunydd o fri a arddangosodd yn eang: ef oedd yr arlunydd ieuengaf erioed i gael ei gomisynu i lunio portread o’r ddiweddar Frenhines.

Gellir canfod mwy am Dan ar y ddolen hon: ar ei wefannau personol. https://en.wikipedia.org/wiki/ neu ar ei wefan bersonol https://www.danlhall.com/gallery

Cynnwys y llyfr, sy’n gyfan gwbl ddwyieithog ac a gyhoeddwyd i gyd-fynd â Gŵyl Glyndŵr, fywgraffiadau byr o 18 o ffigurau a oedd yn gysylltiedig â gwrthryfel Glyndŵr, wedi eu llunio gan Gruffydd Aled Williams, cyn-Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth),a Dr Rhun Emlyn o Adran Hanes a Hanes Cymru y Brifysgol.

Ynghyd â phob bywgraffiad ceir llun o’r ffigur perthnasol gan Dan Llywelyn Hall, ynghyd â cherddi yn ymwneud â hwy gan rai o feirdd blaenllaw Cymru (ceir fersiynau Cymraeg a Saesneg o bob cerdd).

Mae saith allan o’r 20 bardd y ceir eu gwaith yn y gyfrol yn byw neu’n gweithio yn Aberystwyth, sef Gruffudd Antur, Huw Ceiriog, Lowri Emlyn, Matthew Francis, Mererid Hopwood, Dafydd John Pritchard, ac Eurig Salisbury.

Yn ogystal â’r beirdd hyn ceir cerddi yn y gyfrol hefyd gan feirdd Cymraeg a Saesneg enwog eraill, megis Robert Minhinnick, Menna Elfyn, Gillian Clarke, Peredur Lynch a Twm Morys.

Y mae un o’r beirdd, Dachlan Cartwright, yn Gymro sy’n byw yn Indonesia.

Mae’r gyfrol yn cyfuno’r hanesyddol a’r creadigol (ar ffurf y lluniau a’r farddoniaeth) mewn ffordd unigryw a diddorol.

Yn ogystal â’r lansiad ym Machynlleth cafodd y gyfrol ei lansio yn Llwydlo ar 9 Medi ac yn Senedd Cymru ddoe.