GYDA dim ond 500 diwrnod i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol 2027, mae’r brifwyl wedi lansio cystadleuaeth i ddod o hyd i enw ar gyfer yr ŵyl y flwyddyn nesaf.

Mae’r lleoliad wedi ei gadarnhau ar gyfer gogledd Powys, a'r trefniadau lleol yn prysuro, a bellach mae aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn awyddus i ddod o hyd i enw swyddogol.

Mae dalgylch Eisteddfod 2027 yn cynnwys Powys gyfan a de Meirionnydd, ac mae’r trefnwyr eisiau sicrhau enw sy’n adlewyrchu cymeriad unigryw’r ardal ac un sy’n creu balchder ymysg cymunedau lleol.

Yn arwain yr ymgyrch ar ran y Pwyllgor Gwaith mae Heulwen Davies, is-gadeirydd Pwyllgor Strategol Eisteddfod 2027.

Wrth annog pobl i gymryd rhan, dywedodd: “Ryden ni’n edrych ymlaen yn fawr ac yn falch iawn o allu croesawu’r Eisteddfod yma y flwyddyn nesaf.

“Mae 'na gryn gyffro a chefnogaeth yn yr ardal yn barod, ac mae 'na grwpiau o wirfoddolwyr lleol eisoes wrthi'n datblygu syniadau a digwyddiadau.

“Un o'r pethe pwysig rwan yw dod o hyd i enw sy'n gweddu dalgylch yr Eisteddfod, ond sydd hefyd yn cyfleu'r hyn sy'n gwneud ein ardal ni a'n Eisteddfod ni’n unigryw. Mae'r gystadleuaeth hon yn gyfle i ddod yn rhan o hanes Eisteddfod 2027 ac mae croeso i bawb o bob man i gynnig enwau."

Sut i ymgeisio

Mae’r Eisteddfod yn gofyn am enwau gwreiddiol gan bwysleisio bod croeso i bobl o bob cwr o Gymru gyfrannu.

Gall cynigion gael eu cyflwyno drwy gwblhau ffurflen sydd ar gael ar wefan yr Eisteddfod www.eisteddfod.cymru/enw-eisteddfod-2027 neu anfon ebost at [email protected].

Y dyddiad cau yw 31 Mawrth, a bydd yr enw buddugol yn cael ei gyhoeddi ar 9 Ebrill. Bydd yr enillydd yn derbyn tocyn wythnos i Faes Eisteddfod 2027 yn wobr.

Cyhoeddi’r Eisteddfod

Cynhelir Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod 2027 yn Llanidloes am 15:00 brynhawn Sadwrn 9 Mai ar dir Ysgol Uwchradd Llanidloes. Bydd gwahoddiad i grwpiau, sefydliadau ac ysgolion lleol i ymuno gyda Gorsedd Cymru i orymdeithio drwy’r dref am 14:00 cyn y seremoni, pan fydd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Aled Griffiths, yn cyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i'r Archdderwydd Mererid.

Mae rhagor o wybodaeth am y Cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru/cyhoeddi-eisteddfod-2027.