SARRA Elgan sydd yn cyflwyno’r rhaglen ddiweddaraf o gyfres newydd S4C, Stori'r Iaith, gan gynnig archwiliad ffres ac emosiynol o'r iaith Gymraeg i'r gwylwyr - ei hanes, a'r bobl sy'n ei chadw'n fyw.
Gyda straeon pwerus, cyfweliadau twymgalon a datgeliadau annisgwyl, mae'r rhaglen yn gwahodd cynulleidfaoedd i archwilio pam bod y Gymraeg yn parhau i fod yn ganolog i hunaniaeth y genedl.
I Sarra, mae'r Gymraeg yn glwm gyda’i stori ei hun.
Roedd rygbi a’r iaith Gymraeg yn rhan ganolog o’i magwraeth
Meddai: "Sai’n cofio bywyd heb rygbi... mae yn y gwaed. Mae lot o bobol sydd ddim o reidrwydd yn deall yr iaith ac yn cysylltu rygbi a’r mwynhad maen nhw'n ei gael mas o rygbi, gyda'r iaith Gymraeg. Dyw hynny ddim yn rhywbeth fi’n cymryd yn ganiataol.”
Mae Sarra yn arwain y gyfres gyda chynhesrwydd ac awdurdod. Mae ei chysylltiad â rygbi wedi'i wreiddio yn hanes ei theulu. Mae ei thad, Elgan Rees, yn gyn-chwaraewr i Gastell-nedd, Cymru a'r Llewod, a threuliodd llawer o’i phlentyndod yn ei gefnogi.
Cafodd Sarra ei magu wrth ochr y cae rygbi, gan amsugno’r angerdd, y balchder a'r gymuned sy'n diffinio rygbi Cymru - profiadau a luniodd ei chariad at y gêm a'i pherthynas â'r iaith Gymraeg.
Mae'r rhaglen hefyd yn archwilio sut mae chwaraeon wedi cryfhau hunaniaeth Gymreig, gan gyrraedd pobl nad ydynt hyd yn oed yn siarad yr iaith eu hunain, ond sy'n teimlo ei pherthnasedd trwy rygbi, cymuned a diwylliant.
Fel yr eglura yr hanesydd Martin Johnes: "Heb chwaraeon byddai Cymreictod ddim mor gryf... Mae'n creu Cymreictod sydd yn boblogaidd. Creu hyder. Mae'n creu cyffro."
Trwy gydol yr ugeinfed ganrif, roedd gan chwaraeon rôl hanfodol hefyd yn stori’r iaith gan roi hwb mawr i'r Gymraeg ar adeg pan oedd o dan bwysau sylweddol. Ar ddechrau'r 1900au roedd yr iaith ar ei gliniau, ond daeth diwylliant chwaraeon yn arf annisgwyl ond pwerus i’w hadfywio.
Roedd clybiau rygbi, cymunedau lleol a thimau cenedlaethol yn darparu mannau lle gellid clywed, dathlu a normaleiddio'r Gymraeg, gan helpu'r iaith i oroesi cyfnodau o ddirywiad. Dros y degawdau, mae chwaraeon wedi parhau i hyrwyddo a dyrchafu'r Gymraeg, gan ddenu pobl o bob cefndir tuag at yr iaith a chryfhau ei lle yng nghanol hunaniaeth Gymreig.
Mae Stori'r Iaith yn datgelu sut mae chwaraeon yn parhau i gysylltu cynulleidfaoedd newydd â'r iaith.
Mae'r cyn-chwaraewr rygbi a hyfforddwr Iwerddon, Simon Easterby, sydd hefyd yn ŵr i Sarra Elgan, yn falch o fod yn magu plant sy'n siarad Cymraeg: "Rwy’ wrth fy modd â'r ffaith bod fy mhlant yn siarad Cymraeg... mae'n rhywbeth y gallan’ nhw barhau i'w wneud ar ôl ysgol a chyfle i weithio ynddi hefyd... I mi mae'n golygu bod y Gymraeg yn ffynnu ac mae'n bwysig iawn, rwy'n meddwl, i barhau â hynny ar gyfer y genhedlaeth nesaf."
Mae'r rhaglen hefyd yn cyffwrdd â threftadaeth ddarlledu gyfoethog Cymru, gan gynnwys gwaith arloesol Eic Davies. Mae ei derminoleg rygbi Cymreig ddyfeisgar yn parhau i gael ei defnyddio heddiw, ac mae clywed hynny ar S4C wedi helpu i normaleiddio'r Gymraeg.
Mae Sarra yn sgwrsio gydag ŵyr Eic Davies, Rhodri Llywelyn, sydd ei hun wedi adrodd ar chwaraeon Cymru ar gyfer rhaglen Newyddion S4C gan ddefnyddio terminoleg ei dad-cu, geiriau fel llinell fantais ac ochr agored, termau mae Sarra hefyd yn hen gyfarwydd â nhw.
Mae Sarra yn siarad yn agored am sut mae Cymraeg wedi siapio pob rhan o'i bywyd, nid yn unig fel modd o gyfathrebu, ond yn broffesiynol, gyrfaol ac i greu perthynas: "Fydden i yn bendant ddim yn gwneud fy ngyrfa heb yr iaith, a fydden i heb gwrdd â’m gŵr heb yr iaith, felly sai eisiau meddwl am Gymru heb yr iaith Gymraeg."
Yn y rhaglen hefyd mae Jonathan Davies, sy'n cyflwyno cyfres S4C, Jonathan ochr yn ochr â Sarra. Wrth sgwrsio gyda Sarra mae’n tynnu sylw at sut mae'r rhaglen yn annog eraill i gofleidio'r iaith: "Achos ein bod ni’n siarad iaith Cymraeg naturiol, mae’r rhaglen wedi gallu denu pobl sy'n dysgu Cymraeg i fod ar y gyfres, pobl fel Scott Quinnell a Ruth Jones... Dylem ni fod yn gallu rhoi hyder i’r bobl hyn i siarad yr iaith."
Ar draws pob pennod, mae Stori'r Iaith yn dathlu'r Gymraeg fel iaith fyw, sy'n esblygu, yn llawn balchder, hiwmor a dynoliaeth.
Meddai Sarra: "Mae'n well siarad Cymraeg gan ddefnyddio ambell i air Saesneg na pheidio â bod yn hyderus i'w siarad o gwbl."
Stori'r Iaith: Sarra Elgan
Dydd Mercher, 18 Mawrth 21.00
Ar alw: S4C Clic a BBC iPlayer

.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)



Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.