NI fu erioed yr un gyfrol goffa debyg iddi. Ond dyna ni, dim ond un Dewi Pws oedd yna.

Mae dros hanner cant o ffrindiau wedi sgwennu ysgrifau a cherddi i’w cyfrannu i’r gyfrol.

Mae’r cyfan yn cofnodi cerrig milltir daearyddol ei fywyd – Treboeth a gwersylloedd yr Urdd, stiwdios Caerdydd a thafarnau Glannau Menai, meysydd golff a Thre-saith a lleoliadau braf yn Llŷn.

Y Tebot adeg recordio Twll Du Ifan Saer
Y Tebot adeg recordio Twll Du Ifan Saer (Llun: Anna Fon) ( )

Drwy’r cyfan – yn arbennig yn yr adran o doriadau o bapurau bro – cawn y teimlad cynnes fod Dewi yn perthyn i Gymru gyfan.

Mae’r sgwenwyr wedi creu darluniau cofiadwy a phersonol ohono mewn cyflwyniadau hynod o amrywiol.

Ar ben hynny mae yma gasgliad difyr ac amlochrog o luniau o’r gwahanol gyfnodau.

“Go brin bod neb wedi gadael y fath drysorfa o atgofion amrywiol ar ei ôl”, fel y dywed Dafydd Iwan.

Diolch Dewi!, Gwasg Carreg Gwalch, Golygydd Myrddin ap Dafydd, £11.99