ERS 1929 mae Eisteddfod yr Urdd wedi rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc Cymru i arddangos ei doniau, datblygu sgiliau newydd a chymdeithasu gydag eraill o bob cwr o Gymru.

Mewn ymateb i’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cofrestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am fwy o gystadlaethau, mae’r Urdd wedi cyhoeddi bwriad i ehangu’r Eisteddfod i ŵyl saith diwrnod yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.

Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl sy’n esblygu ac yn gwrando ar ein haelodau.

“Mae mwy o gofrestriadau i gystadlu nag erioed o’r blaen a galw am gystadlaethau llwyfan ychwanegol, ac rydym mor falch o weld yr effaith gadarnhaol mae’r ŵyl yn ei gael drwy gynyddu’r cyfleoedd i ymwneud â’r Gymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth.

“Felly i sicrhau ein bod ni’n parhau i fod yn fudiad cynhwysol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, byddwn yn ehangu’r Eisteddfod i ŵyl saith diwrnod.”

Bydd y cystadlu yn dechrau ar ddydd Sadwrn y Sulgwyn (23 Mai 2026) ac yn rhedeg tan y dydd Gwener (29 Mai 2026). Bydd y bartneriaeth ddarlledu yn parhau gydag S4C a BBC Radio Cymru.

Bydd yr Urdd yn ymgynghori a chydweithio gydag aelodau, aelwydydd, canghennau a phwyllgorau lleol i sicrhau bod y trefniadau’n cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed i gymryd rhan, yn ogystal â thrafod gyda phartneriaid a stondinwyr y maes.

Mae’r mudiad yn gwahodd adborth ar y datblygiad drwy lenwi ffurflen ar eu gwefan ac yn cwrdd ag aelodau a rhanddeiliaid dros y misoedd nesaf.

Bydd y trefniadau terfynol yn cael eu cadarnhau adeg cyhoeddi Rhestr Testunau 2026 yn yr hydref.

Meddai Arwel Gruffydd, Cadeirydd Bwrdd Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Mae cyhoeddiad heddiw yn brawf o lwyddiant ac apêl Eisteddfod yr Urdd fel gŵyl ieuenctid deithiol fwyaf Ewrop.

“Ein nod yw parhau i gynnig cyfleoedd amhrisiadwy i aelodau’r Urdd, ac adlewyrchu Cymru a’i hamrywiaeth drwy ymestyn allan i gynulleidfaoedd newydd.”

Mae’r Urdd wedi derbyn cefnogaeth frwd gan y Pwyllgor Gwaith lleol.

Meddai Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, Manon Wyn Williams: “Mae’r cynnydd blynyddol o ran y nifer sy’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn galonogol iawn ac yn golygu bod mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd amhrisiadwy drwy’r mudiad.

“Mae’r diolch am hynny i waith diflino hyfforddwyr, athrawon, gwirfoddolwyr a staff gweithgar yr Urdd ledled Cymru.

“O ganlyniad, mae ymestyn hyd yr Eisteddfod i saith niwrnod yn ddatblygiad hanfodol a chyffrous.

“Mae’n fraint ein bod ni ym Môn yn cael croesawu’r Eisteddfod arbrofol hon ac mae’n gyfle i edrych o’r newydd ar strwythur yr ŵyl gan gydweithio â phlant a phobl ifanc Cymru wrth wneud hynny.

“Mae yna hen edrych ymlaen at groesawu pawb i’r Fam Ynys ymhen blwyddyn!”

Meddai Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Rydym yn edrych ymlaen i barhau i gydweithio’n agos fel partner i’r Urdd gan ddarlledu cyffro’r cystadlu a maes yr Eisteddfod fel arfer ar ein platfformau.”